1Pam, Iehova, y sefi o bell,
Yr ymguddi ar amserau o gyfyngder!
2Mewn ucheldrem yr annuwiol a erlid y gorthrymedig;
Dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymmygasant.
3Canys ymffrostia’r annuwiol am ddymuniad ei enaid,
A’r cybydd a fendithia, — dirmyga Iehova.
4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni weddia;
Nid “yw” Duw “yn” ei holl feddyliau.
5Pâr ei ffyrdd flinder bob amser;
Uchel dy iawnderau o’i olwg:
Ei holl wrthwynebwyr, chwytha yn eu herbyn.
6Dywed yn ei galon, Ni’m syflir
O oes i oes, gan na fyddaf mewn drygfyd.
7O felldith ei enau sy’n llawn,
Ac o ddichellion a thwyll;
Tan ei dafod ormes a chamwedd.
8Eistedd yn nghynllwynfa’r pentrefydd;
Mewn cuddfanau y lladd y diniwed;
Ei lygaid ar y methedig a dremiant.
9Cynllwyna yn y cudd fel llew yn y ffau,
Cynllwyna i ddal y gorthrymedig,
Deil y gorthrymedig gan ei dynu i’w rwyd.
10Ymostwng, cryma,
A syrth, ynghyd â’i gedyrn, ar drueiniaid.
11Dywed yn ei galon, Anghofiodd Duw,
Dirgela ei wyneb fel na wêl byth.
12Cyfod, Iehova; Duw, dyrcha dy law;
Nac anghofia y gorthrymedig.
13Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw,
Y dywed yn ei galon, nad ymofyni?
14Gwelaist, gan y sylwi ar ormes a sarhâd,
I’“w” rhoddi yn dy law dy hun;
Arnat yr hydera yr egwan,
Ti wyt gynnorthwywr yr ymddifad.
15Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus;
Ymofyni am ei annuwioldeb, y cwbl a gei allan.
16 Iehova “sydd” frenin oesol a thragywyddol:
Difethwyd y cenedloedd o’i wlad.
17Dymuniad y gorthrymedig a wrandawaist, Iehova;
Cadarnhei eu calon, gostyngi dy glust
18I iawnhau’r ymddifad a’r cystuddiol;
Fel na chwanego fod mwy er braw ddynionach y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.