Eseia 19 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Esaiah

XIX.Dedfryd yr Aipht.(Lle y cair darluniad cywir o gyflwr presennol y wlad hòno.)

1 Wele Iehofah yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn,

Ac yn dyfod i’r Aipht:

Ac eilunod yr Aipht a gynhyrfant rhagddo,

A chalon yr Aipht a dawdd yn ei chanol.

2Arfogaf hefyd yr Aiphtiaid yn erbyn yr Aiphtiaid,

A hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd,

A phob un yn erbyn ei gymydog:

Dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.

3Ac ysbryd yr Aipht a balla yn ei chanol,

A minnau a ddyddymaf ei chynghor:

Yna yr ymofynant âg eilunod ac â swynyddion,

Ac â gorcheiniaid, ac â brudwyr.

4Ac mi a gauaf yr Aipht yn llaw arglwydd caled,

A brenin cadarn a lywodraetha arnynt;

Medd Arglwydd Iehofah y lluoedd.

5Ac y dyfroedd a ddarfyddant o’r môr,

Yr afon hefyd a â yn hesb, ac yn sech:

6Ac wele yr afonydd a yrant allan ddrewdawd,

Ffrydiau yr Aipht a dreuliant ac a sychant:

Pob corsen a hesgen a wywant.

7Y meusydd wrth y ffrwd, ar fin y ffrwd,

A phob hadiad y ffrwd,

A sychir i fyny, a chwelir, ac ni bydd dim o honynt.

8Y pysgodwyr hefyd a dristâant, ac a alarant,

Oll o’r sawl a fwriant fach i ffrwd:

A thaenwyr rhwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgâant.

9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant lîn heislanedig,

Ac y sawl a wëant liain gwỳn.

10Yna y byddant eu seiliau yn ddrylliedig,

Ac holl weithwyr cyflog yn drist o galon.

11Diau ynfydion tywysogion Soan;

Cynghor doethion gynghorwyr Pharaoh a aeth yn ynfyd:

Pa fodd y dywedwch wrth Pharaoh,

Mab y doethion ydwyf fi,

Mab hen freninoedd?

12Mae hwynt weithion? dy ddoethion!

A mynegent atolwg, os gwyddant,

Pa gynghor a gymerodd Iehofah y lluoedd yn erbyn yr Aipht.

13Tywysogion Soan a ynfydasant,

Twyllwyd tywysogion Noph:

A phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aipht.

14 Iehofah a gymysgodd yn ei chanol hi ysbryd pendröad;

A hwy a wnaethant i’r Aipht gyfeiliorni yn ei holl waith,

Mal y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.

15Ac ni bydd gwaith i’r Aipht,

Yr hwn a wnelo y pen, na’r gloren, y gangen, na’r frwynen.

16Yn y dydd hwnw y bydd yr Aipht fàl gwragedd;

Canys hi a ddychryna, ac a ofna,

Rhag ysgydwad llaw Iehofah y lluoedd,

Yr hon a ysgadwa efe yn ei herbyn hi.

17A bydd tir Iudah yn arswyd i’r Aipht:

Pwy bynag a’i coffa hi a ofna ynddo ei hun;

Rhag cynghor Iehofah y lluoedd,

Yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

18Yn y dydd hwnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aipht,

Yn llefaru iaith Canaan,

Ac yn tyngu i Iehofah y lluoedd:

Dinas Dystryw y gelwir un.

19Yn y dydd hwnw y bydd allor i Iehofah,

Ynghanol tir yr Aipht;

A cholofn i Iehofah gerllaw ei therfyn hi.

20Ac er arwydd y bydd, ac er tystiolaeth,

I Iehofah y lluoedd yn nhir yr Aipht;

Oblegid llefain o honynt ar Iehofah rhag eu gorthrymwyr,

Ac iddo ef anfon iddynt waredwr, ac amddiffynwr, ac eu hachub hwynt.

21Ac adwaenir Iehofah gan yr Aipht,

Ië yr Aiphtiaid a adwaenant Iehofah yn y dydd hwnw;

Gwnant hefyd aberth, ac offrwm,

Ac a addunant adduned i Iehofah, ac a’i talant.

22 Iehofah hefyd a darawa yr Aipht, gan daraw ac iachâu;

Hwythau a droant at Iehofah;

Ac ymbilir ef ganddynt, ac efe a’u hiachâa hwynt.

23Yn y dydd hwnw y bydd prif-ffordd o’r Aipht i Assyria,

Ac yr â yr Assyriaid i’r Aipht,

Ac yr Aiphtiaid i Assyria;

Ac yr Aipht gydag Assyria a wasanaethant.

24Yn y dydd hwnw y bydd Israel yn drydedd

I’r Aipht ac i Assyria;

Er bendith o fewn y tir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help