Ruth 3 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

PEN. III.

1Yna Naomi ei chwegr a ddywedai wrthi, Fy merch, oni cheisiaf i ti orphwysfa yr hon a fydd dda i ti?

4aA phan orweddo efe, yna gwybydd y fan y gorweddo efe ynddi...

9b...lleda gan hyny dy aden dros dy law-forwyn; canys cyfathrachwr wyt ti.

10b...Bendigedig fyddech di gan Iehovah, fy merch; gwnaethost dy garedigrwydd diwethaf i ragori ar y cyntaf; gan nad aethost ar ol gwyr ieuainc na thlawd na chyfoethawg.

11aAc yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedi a wnaf i ti.

12aAc yn awr gwir yw, mai cyfathrachwr wyf fi.

13Aros heno; ac y bore, os efe a ymgyfathracha â thi, da; ymgyfathrached: ond os efe ni fyn ymgyfathrachu â thi; yna myfi a ymgyfathrachaf â thi, byw Iehovah; gorwedda hyd y bore.

15aAc efe a ddywedai, Moes dy fantell yr hon sydd am danat, a gafaela ynddi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help