1CLODFORAF Iehova â’m holl galon,
Mynegaf dy holl ryfeddodau:
2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot,
Canaf i’th enw, y Goruchaf.
3 Pan droesai fy ngelynion yn ol,
Syrthient a darfyddent o’th flaen:
4Canys cynhaliaist fy iawn a’m hachos;
Eisteddaist ar orsedd yn Farnwr cyfiawn:
5Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol;
Eu henw a ddileaist yn oes oesoedd.
6O elyn! darfu “dy” anrheithiau dros byth!
A’r dinasoedd a ddiwreiddiaist —
Difethwyd eu coffadwriaeth hwynt!
7Ond Iehova dros byth a eistedd,
Darparodd i farn ei orsedd;
8Ac efe a farna’r byd mewn cyfiawnder,
A llywodraetha’r bobloedd mewn uniondeb:
9A bydd Iehova yn uchel-dwr i’r cystuddiol,
Yn uchel-dwr ar amserau o gyfyngder:
10Ac ymddiried ynot y rhai a adwaenant dy enw;
Gan na adewir y rhai a’th geisiant di, Iehova.
11Cenwch i Iehova, preswylydd Sïon;
Traethwch y’mysg y bobloedd ei weithrediadau.
12Pan ymofyn am waed, hwynt a gofia,
Nid anghofia waedd y gorthrymedig.
13 Bydd rasol wrthyf, Iehova;
Gwel fy ngorthrymder gan fy nghaseion,
Fy nyrchafydd o byrth angeu:
14Fel y mynegwyf dy holl foliant y’mhyrth merch Sïon,
“Ac” y gorfoleddwyf yn dy waredigaeth: —
15‘Soddodd y cenhedloedd yn y pwll a wnaethent,
Yn y rhwyd a guddiasent, y daliwyd eu traed:
16Adwaenir Iehova wrth y farn a wnaeth;
Yng ngwaith ei ddwylaw y maglwyd yr annuwiol.
(Myfyrdod. Selah.)
17Troir annuwiolion i uffern —
Yr holl genhedloedd sy’n anghofio Duw:
18Canys nid yn dragywydd yr anghofir yr anghenog;
A gobaith y gorthrymedig, ni dderfydd dros byth.’
19Cyfod, Iehova, na orfydded adyn;
Barner y cenhedloedd ger dy fron.
20Gosod, Iehova, ofn arnynt;
Gwybydded y cenhedloedd mai dynionach ydynt. Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.