Salmau 1 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Salm I

1Dedwydd y gwr yr hwn ni rodio yn ol cyngor annuwiolion, ac ar ffordd pechaduriaid ni safo, ac yn eisteddfod gwatwarwyr nid eisteddo;

2Ond yn nghyfraith Iehova ‘fyddo’ ei hyfrydwch, ac yn ei gyfraith a fyfyrio ddydd a nos:

3Canys bydd fel pren a blaned wrth ffrydiau dyfroedd, yr hwn ei ffrwyth a rydd yn ei bryd, a’i ddalen ni wywa; a’r hyn oll a wnel a lwydda:

4Nid felly yr annuwiolion, ond fel us yr hwn a chwal y gwynt.

5Am hyny ni saif annuwiolion i fynu yn y farn, na phechaduriaid yn nghynnulleidfa’r cyfiawn.

6Canys cydnebydd Iehova ffordd y cyfiawnion; ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help