Salmau 19 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Salm XIX.I’r Pencerdd: cerdd o eiddo Dafydd.

1Y nefoedd a ddangosant ogoniant Duw,

A gwaith ei ddwylaw a amlyga’r eangder.

2Dydd ar ol dydd a draetha ymadrodd,

A nos ar ol nos a ddengys wybodaeth.

3Heb lafar ac heb eiriau — ni chlywir eu llais,

4Trwy’r holl ddaear yr â allan eu llinell,

A thrwy eithaf y byd eu lleferydd.

5I’r haul y gosododd babell ynddynt;

Ac efe sydd fel prïodfab a ddaw allan o’i ystafell,

Gorfoledda fel cawr i redeg gyrfa:

6O eithaf y nefoedd ei ddyfodiad allan,

A’i gylchred hyd eu heithafoedd;

Ac ni chelir dim rhag ei wres.

7Cyfraith Iehova sydd berffaith — yn troi yr enaid,

Tystiolaeth Iehova sydd wir — yn doetholi’r gwirion;

8Deddfau Iehova sydd union — yn llawenhau y galon;

Gorchymyn Iehova sydd bur — yn goleuo’r llygaid;

9Ofn Iehova sydd lân — yn parhau byth;

Barnau Iehova sydd gywir — yn gyfiawn oll ynghyd.

10Mwy dymunol ydynt nag aur, ïe, na choeth aur lawer;

A melusach na mêl, neu ddiferiad y diliau:

11Dy was hefyd a oleuir ganddynt;

O’u cadw y mae elw lawer.

12“Ei” gamweddau, pwy a ddirnad?

Oddiwrth ddirgel-feiau glanha fi:

13Hefyd rhag pob balchedd attal fi, Fel na lywodraetho arnaf;

Yna perffeithir, a glanheir fi oddiwrth drosedd lawer.

14Yna perffeithir, a glanheir fi oddiwrth drosedd lawer.

15Bydded yn gymmeradwy ymadroddion fy ngenau,

A myfyrdod fy nghalon, ger dy fron di,

Iehova, fy nghraig a’m Prynwr.

NODAU.

Mae y Salm hon yn dair rhan: —

I. Llyfyr y greadigaeth, adn. 1-6

II. Llyfyr y dadguddiad dwyfol, adn. 7-11.

III. Gweddi, adn. 12-15.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help