12— Ho! trwst pobloedd lawer:
Mal trwst moroedd y trystiant!
Ië cynhwrf cenedloedd
Megys cynhwrf dyrfoedd mawrion y cynhyrfant;
13Y cenedloedd a gynhyrfant megys cynhwrf dyfroedd lawer;
Ond efe a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant yn mhell;
Ië, ymlidir hwynt fal peiswyn y mynyddoedd o flaen y gwynt,
Ac fal troell yn mlaen corwynt.
14Yn amser echwydd; Wele, ddychryn!
Cyn y boreu ni bydd neb o honynt.
Hyn yw rhan y sawl a’n anrheithiant,
A choelbren y rhai a’n hysbeiliant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.