1Pan alwyf, ateb fi, fy Nuw, fy nghyfiawnder;
Mewn cyfyngder ehengaist arnaf:
Bydd raslawn wrthyf, a gwrando fy ngweddi.
2Meibion dynion! pa hyd “y bydd” fy ngogoniant yn warth —
Y cerwch oferedd — y ceisiwch gelwydd! Selah.
3Ond gwybyddwch neillduo o Iehova y duwiol iddo ei hun:
Iehova a wrendy pan alwyf arno.
4Dychrynwch, ac na phechwch;
Ymddiddanwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.
5Aberthwch ebyrth cyfiawnder,
Ac hyderwch yn Iehova.
6Llawer a ddywedant —
‘Pwy a ddengys i ni ddaioni?’ —
Dyrcha arnom lewyrch dy wyneb, Iehova
.7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon i,
Rhagor na’r pryd yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
8Mewn hedd y gorweddaf, ac yr hunaf hefyd;
Canys ti, Iehova, yn unig a wnei i’m drigo yn ddiogel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.