1 Iehova, pwy a drig yn dy babell?
Pwy a breswylia yn dy fynydd sanctaidd?
2Yr hwn a rodia’n berffaith, ac a wna gyfiawnder,
Ac a lefara wirionedd o’i galon;
3Heb absenu â’i dafod,
Heb wneud i’w gymmydog ddrwg,
Na chodi enllib ar ei gyfnesaf;
4Yr hwn y dirmyger yn ei olwg y gwaradwyddus,
Ond a anrhydeddo y rhai a ofnant Iehova;
Yr hwn a dwng i gymmydog, ac ni newidia;
5Yr hwn ni rydd ei arian ar lôg,
Ac ni dderbyn wobr yn erbyn y dieuog:
A wnelo’r pethau hyn, nis symudir byth.
NODAU.
Darlunir yma y gwir dduwiol, gan osod i lawr ei ymddygiad cyffredin. Ni sonir am yr egwyddor, ond am y ffrwyth. Nid addas disgwyl pob peth ym mhob darluniad. Ni ddywedir dim yma am ffydd a chariad, ond am eu heffeithiau. Tebyg mai diben y Salmydd oedd gwahaniaethu rhwng arddelwyr gwir a rhagrithiol. Cyfenwa llawer eu hunain y’mhob oes yn ganlynwyr Duw, heb feddu ar wir dduwioldeb. Pa fodd y gellir eu hadnabod? Wrth eu buchedd. Os nad ydynt yn ateb i’r fath ddarluniad a roddir yma, nid gwir, ond rhagrith a thwyll yw eu crefydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.