Salmau 2 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Salm II.

1Pam y cynddeirioga’r cenhedloedd,

A’r bobloedd, y myfyriant beth ofer?

2Ymgyfyd brenhinoedd y ddaear,

A phenaethiaid, ymosodant ynghyd,

Yn erbyn Iehova, ac yn erbyn ei Fessia.

3‘Drylliwn,’ “meddynt,” ‘eu rhwymau,

A thaflwn oddi wrthym eu cadwynau.’

4Preswylydd y nefoedd a chwardd,

Yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt.

5Yna y llefara wrthynt yn ei lid,

Ac yn ei ddig y dychryna hwynt.

6‘Myfi a enneiniais fy Mrenin

Ar Sion fy mynydd sanctaidd.’

7Traethaf “hyn” am ddeddf Iehova, dywedodd wrthyf,

‘Fy Mab wyt ti, myfi heddyw a’th genhedlais.

8Gofyn genyf, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti,

Ac i’th feddiant, eithafoedd y ddaear.

9Drylli hwynt â gwïalen haiarn,

Fel llestri pridd y maluri hwynt.’

10Ac yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth,

Cymmerwch addysg, farnwyr y ddaear.

11Gwasanaethwch Iehofa mewn ofn,

A gorfoleddwch mewn dychryn,

12Cusenwch y Mab rhag y digia,

Ac y difether chwi yn ebrwydd,

Pan gyneuo ond ychydig ei lid:

Dedwydd pawb a ymddiriedant ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help