2Erglyw lef fy ngwaedd, fy Mrenin a’m Duw;
Canys arnat yr erfyniaf.
3 Iehova; yn y bore y clywi fy llef;
Yn y bore y trefnaf erddot, ac y gwyliaf:
4Canys nid Duw yn hoffi annuwioldeb “wyt” ti;
Nid annedda gyda thi ddrygioni.
5Ni saif ymffrostwyr;
O herwydd y rhai a’m gwyliant,
Uniona o’m blaen dy ffordd.
9Canys nid “oes” yn eu genau gywirdeb;
Eu ceudod “sy” ’n drawsedd, bedd agored “yw” eu ceg;
A’u tafod y gwenieithiant.
10Euogfarna hwynt, O Dduw,
Syrthiant oddiwrth eu cynghorion;
Am amlder eu troseddau gỳr hwynt ymaith;
Canys gwrthryfelasant yn dy erbyn.
11Ond llawenhaed pawb a ymddiriedant ynot;
Dros byth y llawenychant gan y gorchuddi drostynt;
Ië, gorfoledded ynot y rhai a garant dy enw:
12Canys ti, Iehova, a fendithi’r cyfiawn; Caredigrwydd, fel tarian, a’i hamgylcha.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.