1 Iehova, yn dy ddig na cherydda fi,
Ac yn dy lid na chospa fi.
2Bydd raslawn wrthyf, Iehova, canys llesg iawn wyf;
Iacha fi, Iehova, canys dychrynwyd fy esgyrn;
3Ië, dychrynwyd fy enaid yn ddirfawr:
A thi, Iehova, pa hyd? —
4Dychwel, Iehova, rhyddha fy enaid;
Achub fi er mwyn dy drugaredd:
5Canys nid oes yn angeu gôf am danat;
Yn y bedd, pwy a’th glodfora?
6Diffygiais gan fy ochain,
Nofiaf bob nos fy ngwely,
Erchwyn fy ngwely a wlychaf â’m dagrau.
7Treuliodd gan gyffro fy llygad,
Suddodd o herwydd fy ngorthrymwyr.
8Ciliwch oddi wrthyf holl weithredwyr drygioni:
Canys clywodd Iehova lef fy wylofain,
9Clywodd Iehova fy erfyniad;
Iehova a dderbyn fy ngweddi.
10Gwaradwyddir a mawr ddychrynir fy holl elynion;
Dymchwelir, gwaradwyddir hwynt yn ddisymmwth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.