1Pa hyd, Iehova? a anghofi fi dros byth?
Pa hyd y dirgeli dy wyneb rhagof?
2Pa hyd y trefnaf gynghorion yn fy enaid?
“A” gofid yn fy nghalon beunydd?
Pa hyd y dyrcha fy ngelyn uwchlaw i mi?
3Edrych, — ateb fi, Iehova fy Nuw;
Goleua fy llygaid, rhag yr hunwyf yn angeu,
4Rhag dywedyd o’r gelyn, ‘Gorfodais ef.’
Fy ngorthrymwyr a orfoleddant, os llithraf.
5Ond myfi, yn dy drugaredd y gobeithiaf:
Gorfoledda fy nghalon am dy waredigaeth.
Canaf i Iehova, pan gyfnewidio arnaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.