1Ateb di Iehova yn nydd cyfyngder;
Uchelha di enw Duw Iacob:
2Anfona dy gymhorth o’r santeiddfa;
Ac o Seion y cynnalia di:
3Cofia dy holl offrymau;
A’th aberthau a gymmeradwya: Selah.
4Rhydd i ti yn ol dy galon;
A’th holl gyngor a gyflawna.
5Gorfoleddwn am dy waredigaeth,
Ac yn enw ein Duw y buddugoliaethwn;
Cyflawna Iehova dy holl erfynion.
6Yn awr gwn, mai Iehova a waredodd ei eneiniog:
Ateb ef o nefoedd ei santeiddfa;
Trwy rymusderau y gwared ei ddeheulaw.
7Rhai am gerbydau, a rhai am feirch;
Ond ni, am enw Iehova ein Duw, a goffawn.
8Hwy a grymasant ac a syrthiasant;
Ond ni a godasom, ac a union safwn.
9 Iehova a waredodd y Brenin;
Ateb ni yn y dydd y galwom.
NODAU.
Bernir gyfansoddi y Salm hon gan Ddafydd i’w harfer gan ei bobl, naill ai er mawl i Dduw am ei waredu, neu fel gweddi am ei lwyddiant. Mwy cysson yw trwyddi, os golygwn hi yn gerdd o fawl i Dduw. Traethir yr hyn a wnai Duw iddo. Yr un yw ei rhediad a’r Salm ganlynol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.