1Cadw fi, O Dduw, canys ymddiriedais ynot;
2Dywedais wrth Iehova fy Nghynnalydd, —
‘Ti yw fy naioni, — nid “oes” dim hebddot.’
3Am y saint sydd ar y ddaear — hwy,
Ië, fy rhai rhagorol, — fy holl hyfrydwch sydd ynddynt.
4Amlha eu gofidiau hwy a gynnysgaeddant “Dduw” arall:
Ni thywalltaf eu tywalltiadau o waed;
Ac ni chymmeraf eu henwau ar fy ngwefusau.
5 Iehova yw rhan fy nosparth a’m cwpan;
Ti a gynheli fy nghoelbren.
6Syrthiodd y llinynau i mi mewn hyfrydfanau,
Ië, etifeddiaeth hardd sydd genyf.
7Bendithiaf Iehova sydd yn fy nghynghori;
Ië, fy arenau a’m rhybuddiant y nosweithiau.
8Gosodais Iehova ger fy mron yn wastad
Am “ei fod” ar fy neheulaw, ni’m symudir.
9Gan hyny llawenha fy nghalon, a gorfoledda fy ngogoniant;
Ië, fy nghnawd a babella yn hyderus.
10Canys ni adewi fy enaid yn y beddrod,
Ac ni roddi dy sant i weled llygredigaeth.
11Peri i mi wybod llwybr bywyd;
Digonedd o bob llawenydd “sydd” ger dy fron,
Pob hyfrydwch ar dy ddeheulaw byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.