1 Iehova fy Nuw, ynot yr ymddiriedais;
Achub fi rhag pob un a’m herlid, a gwared fi:
2Rhag y llarpio, fel llew, fy enaid;
Gan rwygo, pan na bo gwaredydd.
3 Iehova fy Nuw, os gwnaethum hyn,
Od oes gormes yn fy nwylaw,
4Os telais i’r hwn oedd heddychol â mi ddrwg,
A rhyddhau fy ngorthrymydd heb achos, —
5Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded;
Ië, sathred i’r ddaear fy mywyd;
A’m gogoniant pabelled yn y llwch. Selah.
6Cyfod, Iehova, yn dy ddig;
Ymddyrcha o herwydd llid fy ngorthrymydd,
A deffroa erof y farn a orchymynaist.
7Yna cyfarfod pobloedd a’th amgylchyna;
Ac erddynt i’r uchelfa dychwel.
8 Iehova a farn y bobloedd; — Barn fi,
Iehova, yn ol fy nghyfiawnder,
Yn ol fy mherffeithrwyd “sydd” ynof.
9Darfydded, atolwg, ddrwg yr annuwiolion;
Ond cadarnha di y cyfiawn:
Canys profwr y galon a’r arenau “Yw” y Duw cyfiawn.
10Fy ymddiffyn, ar Dduw “y mae,”
Achubydd yr uniawn o galon —
11Duw, barnydd y cyfiawn, a Duw digllon beunydd.
12Os na thry, ei gleddyf a hoga;
Ei fwa a anelodd, ïe, cyfeiriodd ef,
13Ac ato y cyfeiriodd arfau angeuol;
Ei saethau yn erbyn difrodwyr a lunia.
14Wele, ymddwg anwiredd;
Ië, beichiogodd ar ddrygioni, ac esgor ar gelwydd.
15Pwll a gloddiodd, ïe, dyfnhaodd ef;
Ond syrth i’r clawdd a wna.
16Try ei ddrygioni ar ei ben ei hun,
Ac ar ei goppa y disgyn ei gamwedd.
17Clodforaf, Iehova, yn ol ei gyfiawnder,
Ië, canmolaf enw Iehova goruchaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.