1Yn Iehova yr ymddiriedaf;
Podd y dywedwch wrth fy enaid
Ehedwch i’ch mynydd fel adar:
2Canys wele yr aunuwiolion a annelant fwa;
Parotoisant eu saeth ar y llinyn,
I saethu yn y tywyll yr uniawn o galon:
3Canys y sylfeini a ddymchwelant: —
Y cyfiawn, pa beth a wna?
4 Iehova “sydd” yn ei deml santaidd,
Iehova, yn y nefoedd “y mae” ei orsedd;
Ei lygaid a welant yr anghenus,
Ei amrantau a brofant feibion dynion.
5 Iehova a brawf y cyfiawn a’r annuwiol;
A charwr trawsder a gasâ ei enaid.
6Gwlawia ar annuwiolion farwor,
Tân a llosgfaen;
A chwythad poethwyntoedd a fydd ran eu cwpan.
7Canys cyfiawn “yw” Iehova,
Cyfiawnderau a gara;
Ar yr uniawn yr edrych ei wyneb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.