1Anwyl-garaf Iehova fy nghadernid:
2 Iehova “yw” fy lloches a’m diogelfa a’m gwaredydd,
Fy Nuw, fy nghraig; ymddiriedaf ynddo:
Fy nharian, a nerth fy ymwared, fy uchelfa.
3Gan foliannu, galwaf ar Iehova;
Ac achubir fi rhag fy ngelynion.
4Pan gylchyno fi gadwynau marwolaeth,
Ac y dychryno fi ffrydiau y Fall;
5Pan amgylcho fi gadwynau y bedd,
Y rhagflaeno fi faglau marwolaeth;
6Yn fy nghyfyngder galwaf ar Iehova;
Ië, ar fy Nuw y gwaeddaf; Gwrendy o’i deml fy llef,
A’m gwaedd o’i flaen a ddaw i’w glustiau:
7Yna sigla a chryna y ddaear,
Ië, cynhyrfa ac ymsigla seiliau y mynyddoedd.
8 Pan ddigiodd efe, esgynodd mwg yn ei lid,
A thân o’i enau a ysodd;
Fflamau a ennynwyd ganddo:
9Ië, gostyngodd y nefoedd a disgynodd,
A’r caddug o tan ei draed;
10A marchogodd ar gerub, ac ehedodd,
Ië, ehedfanodd ar adenydd y gwynt;
11A gosododd dywyllwch yn ddirgelfa iddo,
Ei amgylchoedd yn orchudd iddo —
Tywyllni’r dyfroedd, cymylau’r wybren.
12Gan y disgleirdeb “oedd” o’i flaen, ei gymylau
A aethant heibio yn genllusg ac yn fflamau tân:
13Canys taranodd Iehova o’r nefoedd,
A’r Goruchaf a roddodd ei lais, Cenllysg a fflamau tan:
14Ië, danfonodd ei saethau, a gwasgarodd hwynt;
A melltenau aml, ac a’u terfysgodd:
15A gwelwyd ffrydiau dyfroedd,
Ac amlygwyd seiliau y byd,
Gan dy gerydd di, Iehova,
Gan chwythad gwynt dy lid.
16Danfona o’r uchelder, cymmer fi;
Tyn fi allan o ddyfroedd lawer:
17Gwared fi rhag fy ngelyn cadarn,
A rhag fy nghaseion; canys cryfach ydynt na mi.
18Cyfarfyddant â mi yn nydd fy ngofid
Ond bydd Iehova i mi yn gynnaliad;
19A dwg fi allan i ehangder;
Gwared fi, canys hoffodd ynof.
20Edfryd Iehova i mi yn ol fy nghyfiawnder;
Ac yn ol glendid fy nwylaw yr adchwela i mi;
21Canys cedwais ffyrdd Iehova,
Ac ni wrthgiliais oddiwrth fy Nuw;
22Canys ei holl farnau ydynt ger fy mron,
A’i ddeddfau ni fwriaf oddi wrthyf:
23Ië, byddaf berffaith ger ei fron,
Ac ymgadwaf rhag fy anwiredd;
24Ac adchwela Iehova i mi yn ol fy nghyfiawnder,
Yn ol glendid fy nwylaw ger ei fron.
25A’r trugarog y gwnei drugaredd,
A’r gwr perffaith y gwnai berffeithrwydd,
26A’r glân y gwnai lendid;
Ond a’r cyndyn yr ymgyndyni:
27Canys ti achubi bobl orthrymedig,
A golygon uchel a ostyngi:
28Canys ti a oleui fy llusern, Iehova;
Fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch:
29Canys trwyddot ymlidiaf fyddin;
A thrwy fy Nuw, llamaf dros fur —
30Y Duw “sydd” berffaith ei ffordd.
Yr hyn a lefarodd Iehova sydd wedi ei buro;
Tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31Canys pwy sydd Dduw heblaw Iehova?
A phwy sydd graig onid ein Duw ni?
32Y Duw yr hwn a’m gwregysa â nerth,
Ac a wna yn berffaith fy ffyrdd;
33Yr hwn a osod fy nhraed fel ewigod,
Ac a’m sefydla ar fy uchelfan;
34Yr hwn a ddysg fy nwylaw i ryfel:
Gwnai hefyd fel bwa dur fy mraich,
35A rhoddi i mi darian dy waredigaeth;
A’th ddeheulaw a’m sefydla,
A’th gystudd a’m gwna yn fawr:
36Ehangi fy nghamrau tanaf,
Fel na siglo fy ngwadnau:
37Erlidiaf fy ngelynion, a goddiweddaf hwynt;
Ac ni ddychwelaf nes eu difetha:
38Archollaf hwynt fel na allant godi;
Syrthiant o tan fy nhraed:
39Ië, gwregysi fi â nerth i ryfel,
Darostyngi fy ngwrthwynebwyr tanaf:
40A’m gelynion, rhoddi i mi “eu” gwddf;
A’m caseion, toraf hwynt ymaith.
41Gwaeddant; ond ni bydd achubydd:
Ar Iehova; ond ni ateb hwynt.
42Yna maluriaf hwynt fel llwch o flaen y gwynt;
Fel tom yr heolydd y taflaf hwynt allan.
43Gwaredi fi rhag cynhenau y bobl;
Gosodi fi yn benaeth y cenhedloedd:
44Pobl nid adnabum a’m gwasanaethant;
Ar wrandawiad clust y gwrandawant arnaf:
Meibion dieithr a ragrithiant i mi;
45Meibion dieithr a ddihoenant,
Ië, brawychant o’u cauadleoedd.
46Byw yw Iehova, a bendigedig fyddo’m craig;
A derchafer fy Nuw, fy ngwaredydd;
47Y Duw a rydd i mi ymddialeddau,
Ac a ddwg y bobl danaf;
48Yr hwn a’m gwared rhag fy ngelynion;
(Diau tradyrchefi fi uwchlaw fy ngwrthwynebwyr;
Oddiwrth y gwr traws y’m gwaredi.
49Am hyny clodforaf di, Iehova, y’mhlith y cenhedloedd,
A chanaf i’th enw) —
50Yr hwn a fawreddusa waredigaethau ei frenin,
Ac a wna drugaredd i’w eneiniog,
I Ddafydd ac i’w had yn dragywydd.
NODAU.
Ceir y Salm hon yn 2 Sam. 22 bron air y’ngair. Amrywiant mewn geiriau yn fwy na sylwedd. Cynnwys saith rhan: —
I. Y dechreuad, adn. 1-3.
II. Ei arfer yn amser cyfyngder — gweddi, adn. 4-7.
III. Cyfeiriad at wyrthiol gyfryngiad Duw ar ran ei bobl, adn. 8-15. —
IV. Ei gred am yr hyn a wnai Duw eiddo, adn. 18-19. —
V. Cyfiawn ymddygiad Duw tu ag at y diniwed gorthrymedig, adn. 20-30.
VI. Hyder ar Dduw am fuddugoliaeth, adn. 31-45.
VII. Clodforiant i Dduw, adn. 46-50. Cyfieithir yn gyffredin y rhan fwyaf o’r Salm fel pe buasai yn adroddiad o’r hyn a gymmerodd le, gan arfer yr amser a aeth heibio (the past time) ond nid oes un reol ieithadurol am hyny. Cedwir yma yr amser priodol: y mae’r perwyddiaid yn yr amser dyfodol (future tense) yr hwn a arferai yr Hebreaid, fel y Cymry, yn fynych yn lle yr un presennol. Y mae amgylchiad ag sy’n troi hwn yn Hebraeg i amser wedi myned heibio; ond nid yw y rhan fwyaf o’r perwyddiaid yma dan y fath amgylchiad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.