1 Iehova, mor aml yw fy ngorthrymwyr!
Llawer a gyfodant i’m herbyn;
2Llawer a ddywedant am fy enaid —
Nad “oes” waredigaeth iddi yn Nuw. Selah
.3Ond ti, Iehova, “wyt” darian o’m cylch,
Fy ngogoniant a dyrchafydd fy mhen.
4Fy llef “sydd” ar Iehova — galwaf,
Ac ateb fi o’i fynydd sanctaidd. Selah.
5Mi a orweddais ac a gysgais;
Deffroais, canys Iehova a’m cynhaliodd.
6Nid ofnaf rhag myrddiwn o bobl,
Rhai o amgylch a safant i’m herbyn.
7Cyfod, Iehova; gwared fi, fy Nuw:
Canys tarawaist fy holl elynion ar yr ên,
Dannedd yr annuwiolion a ddrylliaist.
8Eiddo Iehova y waredigaeth; —
Ar dy bobl “y mae” dy fendith. Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.