Salmau 12 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Salm XII.I’r Pencerdd: ar yr wythfed: cerdd o eiddo Dafydd.

1Achub, Iehova; canys darfu y trugarog;

Canys pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2Oferedd a lefarant bob un wrth ei gyfaill;

Gwefusau llyfnion! â chalon ddyblig y llefarant.

3Tyr Iehova holl wefusau llyfnion,

Y Tafod a lefaro fawreddau,

4Y rhai a ddywedant — ‘A’n tafod y gorfyddwn,

Ein gwefusau, ein heiddo “ydynt,”

Pwy sydd Lywydd arnom?’

5‘Am ddifrod y gorthrymedig, am ochain y tlodion,

Yn awr cyfodaf,’ medd Iehova,

‘Gosodaf mewn diogelwch a chwyther ato.’

6Geiriau Iehova, geiriau pur “ydynt,”

Fel arian a goethwyd mewn tawddlestr pridd,

A doddwyd seithwaith.

7Ti, Iehova, a’u cedwi hwynt;

Diogeli ni rhag y genedl hon dros byth.

8O amgylch yr annuwiolion a rodiant,

Pan dderchafer gweddillion ar feibion dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help