1 Iehova, ein Llywydd,
Mor fawrwych dy enw trwy’r holl ddaear!
Yr hwn a roddaist dy harddwch uwchlaw o herwydd dy wrthwynebwyr,
Er gostegu’r gelyn a’r ymddialydd.
3Pan olygwyf dy nefoedd, gwaith dy fysedd,
Y lleuad a’r sêr y rhai a luniaist,
4Pa beth yw adyn, fel y cofiot ef,
Neu fab dyn, fel yr ymwelot âg ef! —
5Etto gwnaethost ef ychydig îs na’r angelion, â choronaist ef â gogoniant ac anrhydedd;
6Gwnest ef yn llywydd ar weithredoedd dy ddwylaw;
Y cwbl a osodaist tan ei draed —
7Defaid ac ychain oll, Ac hefyd anifeiliaid y maes;
8Adar y nefoedd, a physg y môr,
A dramwyant lwybrau y moroedd. —
9 Iehova, ein Llywydd,
Mor fawrwych dy enw trwy’r holl ddaear!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.