Salmau 17 - Welsh Psalms 1-20 and selection of Ruth and Isaiah 1830-35 (Ioan Tegid)

Salm XVII.Gweddi: eiddo Dafydd.

1Gwrando, Iehova, “fy” nghyfiawnder, ystyria fy ngwaedd;

Erglyw fy ngweddi o wefusau didwyll.

2Deled fy marn oddi ger dy fron,

Edryched dy lygaid ar unionderau.

3Fy nghalon a brofaist, a arolygaist yn y nos;

Chwiliaist fi; ni chei ddim: bwriedais,

4Na throseddai fy ngenau o herwydd gweithredoedd dyn;

Trwy air dy wefusau y cedwais rhag llwybrau’r yspeilydd.

5Cynnal fy ngherddediad yn dy rodfeydd,

Fel na lithro fy nghamrau.

6Mi a alwaf arnat, canys atebi fi, O Dduw;

Gogwydda dy glust ataf, gwrando fy ymadrodd.

7Mawryga dy drugareddau, yr hwn a achubi ymddiriedwyr

Rhag gwrthwynebwyr dy ddeheulaw.

8Cadw fi fel canwyll llygad;

Tan gysgod dy adenydd cuddia fi

9Rhag wyneb yr annuwiolion a’m hanrheithiant, —

Fy ngelynion, a’m cylchynant am “fy” mywyd.

10Cauir hwynt “yn” eu brasder;

Llefarant “â” ’u genau yn rhodresgar.

11Arwain ni yn awr; — amgylchant ni;

Gosodant eu llygaid ar ogwydd tua’r ddaear.

12Eu dull “sydd” fel llew a lewyga am ysglyfaeth,

Neu fel cenaw a eistedd mewn dirgel fanau.

13Cyfod, Iehova, rhagflaena ei wyneb, darostwng ef;

Gwared “â” ’th gleddyf fy enaid rhag yr annuwiol,

14“A” ’th law, Iehova, rhag dynion — rhag dynion y byd:

Eu rhan “sydd” yn y bywyd “hwn” ac yn dy drysorau;

Llenwi eu bol, digonir hwynt â meibion;

A gadawant eu gweddill i’w plant. —

15Myfi mewn cyfiawnder a gaf weled dy wyneb;

Digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help