Ioan 18 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Bradychu a dal yr Iesu

1Wedi i’r Iesu ddweud y pethau hyn fe aeth gyda’i ddisgyblion dros nant Cidron. Roedd gardd yno, ac fe aeth ef a’i ddisgyblion iddi.

2Fe wyddai Jwdas, y bradwr, hefyd am y lle, oherwydd ei bod hi’n arfer gan yr Iesu gwrdd â’i ddisgyblion yno.

3Felly dyma Jwdas yn cymryd mintai o filwyr, a gweision oddi wrth y prif offeiriaid a’r Phariseaid, a mynd yno yn cario llusernau a ffaglau ac arfau.

4Gan fod yr Iesu’n gwybod y cyfan oedd yn mynd i ddigwydd iddo, fe aeth allan a gofyn iddyn nhw: “Am bwy rydych chi’n chwilio?”

5“Iesu o Nasareth,” oedd eu hateb.

“Fi yw ef,” meddai’r Iesu.

Roedd Jwdas, y bradwr, hefyd yn sefyll gyda nhw.

6Pan ddywedodd, ‘Fi yw ef,’ dyma nhw’n cilio’n ôl, a syrthio i’r llawr.

7Gofynnodd yr Iesu eto: “Am bwy rydych chi’n chwilio?”

“Iesu o Nasareth,” medden nhw.

8“Ond rydw i wedi dweud wrthych chi mai fi yw ef,” atebodd yr Iesu. “Os ydych chi’n chwilio amdanaf i, gadewch i’r rhain fynd.”

9(Roedd rhaid i’w eiriau ddod yn wir — ‘Chollais i’r un o’r rhai a roddaist ti i mi.’)

10Roedd gan Simon Pedr gleddyf; ac fe’i tynnodd a tharo gwas y Prif Offeiriad, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. (Enw’r gwas oedd Malchus.)

11Meddai’r Iesu wrth Pedr: “Rho dy gleddyf yn ôl yn y wain. Wyt ti’n meddwl na wnaf i ddim yfed y cwpan a roddodd y Tad i mi?”

Yr Iesu o flaen y Prif Offeiriad a Phedr yn gwadu

12A dyma’r fintai o filwyr, a’r capten, a gweision yr Iddewon yn dal yr Iesu a’i rwymo,

13a mynd ag ef yn gyntaf at Annas, am ei fod yn dad-yng-nghyfraith i Gaiaffas, Prif Offeiriad y

14flwyddyn honno. Dyma’r Caiaffas a gynghorodd yr Iddewon fod yn well i un dyn farw dros y bobl.

15Fe ddilynwyd yr Iesu gan Simon Pedr a disgybl arall. Roedd y disgybl hwnnw yn adnabyddus i’r Prif Offeiriad; felly fe aeth i gyntedd y Prif Offeiriad gyda’r Iesu,

16ond fe safodd Pedr wrth y drws tu allan. Felly dyma’r disgybl arall a oedd yn adnabyddus i’r Prif Offeiriad yn mynd allan eto a siarad gyda’r eneth wrth y drws, a dod â Phedr i mewn.

17“Rwyt tithau hefyd,” meddai’r eneth wrth Bedr, “yn un o ddisgyblion y dyn yma, wyt ti ddim?”

“Na, dydw i ddim,” meddai Pedr.

18Roedd y gweision a’r swyddogion wedi gwneud tân golosg ac yn sefyll o’i gwmpas i gynhesu, oherwydd ei bod hi’n oer. Roedd Pedr hefyd yn sefyll gyda nhw ac yn ymgynhesu.

19Fe holodd y Prif Offeiriad yr Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth.

20Atebodd yr Iesu, “Rwyf fi wedi siarad yn gwbl agored wrth y byd; rwyf wedi arfer dysgu yn y synagogau, ac yn y Deml, lle mae’r Iddewon yn dod at ei gilydd. Ddywedais i ddim byd yn gyfrinachol erioed.

21Pam rwyt ti’n fy holi i? Gofyn i’r rhai a’m clywodd i, beth ddywedais i wrthyn nhw. Maen nhw’n gwybod beth a ddywedais i.”

22Pan ddywedodd ef hyn, rhoddodd un o’r gweision a oedd yn sefyll gerllaw, gernod i’r Iesu, ac meddai, “Ai dyma’r ffordd rwyt ti’n ateb y Prif Offeiriad?”

23Atebodd yr Iesu, “Os atebais i’n anghywir, rho dystiolaeth o hynny, ond os atebais yn gywir, pam rwyt ti’n fy nharo i?”

24Felly dyma Annas yn ei anfon at y Prif Offeiriad Caiaffas, wedi ei rwymo.

25Roedd Pedr o hyd yn dal i sefyll yn ymgynhesu. Dyma nhw’n gofyn iddo, “Wyt tithau ddim yn un o’i ddisgyblion?”

Ond gwadu a wnaeth Pedr, ac meddai, “Na, dydw i ddim.”

26Ond meddai un o weision y Prif Offeiriad, perthynas i hwnnw y torrodd Pedr ei glust, “Welais i mohonot ti yn yr ardd gydag ef?”

27Gwadu eto a wnaeth Pedr, ac ar hyn dyma geiliog yn canu.

Yr Iesu o flaen Peilat

28Yn gynnar yn y bore, cymerwyd yr Iesu o dŷ Caiaffas i blas y Llywodraethwr. Fe safodd yr Iddewon o’r tu allan rhag gwneud eu hunain yn amhur; roedden nhw am gymryd rhan yng Ngŵyl y Pasg.

29Felly dyma Peilat yn mynd allan atyn nhw a gofyn, “Beth yw’r cyhuddiad sydd gennych yn erbyn y dyn yma?”

30“Fyddem ni ddim wedi dod ag ef atat ti oni bai iddo droseddu,” oedd eu hateb.

31“Cymerwch chi ef a bernwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain,” meddai Peilat.

“Ond does gyda ni ddim hawl i ddedfrydu dyn i farwolaeth,” meddai’r Iddewon,

32gan wireddu geiriau’r Iesu am y modd y byddai farw.

33Felly dyma Peilat yn mynd yn ôl i’r plas a galw am yr Iesu.

“Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” gofynnodd.

34Meddai’r Iesu, “Ai ohonot dy hun wyt ti’n dweud hyn, ynteu eraill sydd wedi’i awgrymu i ti?”

35“Beth?” atebodd Peilat, “wyt ti’n meddwl mai Iddew ydw i? Dy genedl dy hun a’i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo i mi. Beth wyt ti wedi ei wneud?”

36Atebodd yr Iesu, “Dyw fy nheyrnas i ddim â’i gwreiddiau yn y byd hwn. Pe bai ei gwreiddiau yn y byd hwn, mi fyddai fy ngweision wrthi’n ymladd rhag i mi gael fy rhoi yn nwylo’r Iddewon: na, nid teyrnas oddi yma yw fy un i.”

37“Brenin wyt ti, felly?” holodd Peilat.

Atebodd yr Iesu, “Ti sy’n dweud mai ‘Brenin’ ydwyf fi. I’r pwrpas hwn y cefais i fy ngeni ac y deuthum i’r byd — i dystiolaethu i’r gwirionedd; mae pawb sy’n perthyn i’r gwirionedd yn fy ngwrando i.”

38“Beth yw gwirionedd?” gofynnodd Peilat.

Dedfrydu’r Iesu i farw

Wedi dweud hyn aeth allan eto at yr Iddewon, ac meddai wrthyn nhw, “Welaf i ddim rheswm dros ei gondemnio:

39ond mae gyda chi arferiad i mi ollwng un carcharor yn rhydd ar yr Ŵyl. Hoffech chi i mi ollwng yn rhydd i chi Frenin yr Iddewon?”

40Ond dyna floeddio, “Na, nid hwn, ond Barabbas.” Lleidr oedd Barabbas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help