Ioan 14 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Yr Iesu’n dysgu eto

1“Peidiwch â bod mor bryderus eich calon. Daliwch i gredu yn Nuw, a daliwch i gredu ynof finnau

2Mae llawer lle i aros yn Nhŷ fy Nhad; pe na fyddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych chi fy mod yn mynd i baratoi lle i chi?

3Ac ar ôl mynd a pharatoi lle i chi, fe ddof yn ôl i’ch cymryd ataf fi fy hun er mwyn i chi fod lle rwyf fi.

4Rydych chi’n gwybod y ffordd yn iawn i’r lle rwyf fi’n mynd.”

5Meddai Thomas, “Arglwydd, dydym ni ddim yn gwybod i ble rwyt ti’n mynd, sut felly y medrwn ni wybod y ffordd?”

6“Fi yw’r ffordd, fi yw’r gwirionedd a fi yw’r bywyd,” atebodd yr Iesu. “Does neb yn dod at y Tad ond trwof fi.”

7“Os ydych chi wedi fy nabod i fe gewch chi nabod fy Nhad hefyd. O hyn ymlaen rydych chi yn ei nabod; ac wedi ei weld.”

8Meddai Philip wrtho, “Arglwydd, dangos y Tad inni, dyna’r cyfan sydd eisiau arnom.”

9Atebodd yr Iesu, “A wyf fi wedi bod yr holl amser yma gyda chi a dwyt ti eto ddim yn fy nabod i, Philip? Pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i, mae ef wedi gweld y Tad. Sut medri di ddweud, ‘Dangos y Tad inni’?

10Dwyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad a’r Tad ynof fi? Nid fi yw awdur y geiriau rwyf yn eu llefaru wrthych, ond y Tad, sy’n aros ynof fi, sy’n gwneud ei waith ei hun.

11Credwch fi pan wyf yn dweud fy mod yn y Tad a’r Tad ynof fi, neu ynteu credwch yr union bethau sy’n cael eu gwneud.

12Yn wir i chi, pwy bynnag sy’n credu ynof fi, fe wna yr hyn rwyf fi yn ei wneud — ac fe wna bethau mwy na hyn, oherwydd rwyf fi yn mynd at y Tad.

13Yn wir, fe wnaf unrhyw beth a ofynnwch yn fy enw er mwyn gogoneddu’r Tad yn y Mab.

14Os gofynnwch rywbeth i minnau yn fy enw i fe’i gwnaf.”

Addewid yr Ysbryd

15“Os ydych yn fy ngharu fe gedwch fy ngorchmynion i.

16Fe ofynnaf finnau i’r Tad, ac fe rydd ef un arall i’ch cynorthwyo, Ysbryd y Gwirionedd, i fod gyda chi am byth.

17Fedr y byd mo’i dderbyn ef oherwydd dyw’r byd ddim yn ei weld nag yn ei nabod; rydych chi yn ei nabod oherwydd mae’n aros gyda chi ac yn byw ynoch chi.

18Wnaf fi mo’ch gadael chi yn amddifad; rwyf yn dod atoch chi.

19Ymhen ychydig fydd y byd ddim yn fy ngweld i, ond fe welwch chi fi, ac am fy mod i’n fyw fe fyddwch chithau fyw hefyd.

20Pryd hynny fe fyddwch yn gwybod fy mod i yn fy Nhad, a chithau ynof finnau, a minnau ynoch chithau.

21Y sawl sy’n dal ar fy ngorchmynion ac yn ufuddhau iddyn nhw, hwnnw sy’n fy ngharu i; a phwy bynnag sy’n fy ngharu, fe gaiff hwnnw ei garu gan fy Nhad; ac fe’i caraf i ef hefyd, ac fe wnaf fy hun yn gwbl eglur iddo.”

22Gofynnodd Jwdas iddo — y Jwdas arall, nid yr Iscariot, “Beth sydd wedi digwydd, Arglwydd, dy fod am wneud dy hun yn eglur i ni’n unig ac nid i’r byd?”

23Atebodd yr Iesu, “Os bydd rhywun yn fy ngharu i fe fydd yn ufudd i’m gair; ac fe fydd fy Nhad yn ei garu ef ac fe ddown ni ato a chartrefu gydag ef.

24Mae’r sawl nad yw’n fy ngharu yn anufudd i’m gair. Nid fi piau’r gair rydych chi yn ei glywed: gair y Tad a’m hanfonodd yw ef.

25Rwyf wedi dweud hyn wrthych a minnau gyda chi hyd yn hyn,

26ond y Cynorthwywr, yr Ysbryd Glân a anfonir gan y Tad yn f’enw i, fe ddysg hwnnw bopeth i chi a’ch atgoffa o’r cwbl a ddywedais i wrthych. Yr Ysbryd Glân fydd y Tad yn ei anfon yn f’enw yw hwnnw.

27“Tangnefedd rwy’n ei adael i chi; fy nhangnefedd i fy hun rwy’n ei roi i chi. Dwyf fi ddim yn ei roi i chi fel y mae’r byd yn rhoi. Peidiwch â bod mor bryderus eich calon; peidiwch â bod yn llwfr.

28Fe glywsoch yr hyn a ddywedais wrthych. ‘Rwyf yn mynd i ffwrdd, ac yn dod yn ôl atoch.’ Pe baech chi’n fy ngharu fe fyddech yn falch fy mod yn mynd at y Tad oherwydd mae’r Tad yn fwy na fi.

29Rwyf wedi dweud hyn yn awr ymlaen llaw er mwyn i chi gredu pan ddaw i ben.

30“Fyddaf fi ddim yn sgwrsio llawer â chi eto; mae rheolwr y byd hwn yn agosáu. Does ganddo ef ddim hawl arnaf fi.

31Ond rhaid i’r byd gael gwybod fy mod i’n caru’r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae ef wedi gorchymyn i mi.

“Codwch, gadewch i ni fynd oddi yma!”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help