1A dywedodd wrthyn nhw, “Credwch chi fi, ymhlith y rhai sy’n sefyll yma y mae rhai na phrofan flas marwolaeth nes iddyn nhw weld teyrnasiad Duw wedi dod mewn nerth.”
Y gweddnewidiad2Chwe diwrnod yn ddiweddarach aeth yr Iesu â Phedr, Iago ac Ioan gydag ef a’u dwyn i ben mynydd uchel ar eu pennau eu hunain. Ac yno yn eu gŵydd, fe newidiwyd ei wedd,
3ac aeth ei ddillad yn ddisglair wyn — yn wynnach nag y gallai’r un cannwr yn y byd eu gwneud.
4Ac ymddangosodd Eleias iddyn nhw, a Moses gydag ef; a dyna lle roedden nhw yn siarad â’r Iesu.
5A dywedodd Pedr, “Athro, mor dda yw ein bod yma. Gad i ni godi tair pabell, un i ti, un i Foses ac un i Eleias,”
6oherwydd ni wyddai Pedr beth i’w ddweud, gan gymaint yr ofn a gawson nhw.
7Yna daeth cwmwl gan daflu’i gysgod drostyn nhw, a llais o’r cwmwl, “Dyma fy Mab, fy anwylyd, gwrandewch arno.”
8Ac yn sydyn, wedi edrych o gwmpas doedd neb i’w weld mwyach ond yr Iesu a nhw eu hunain.
Holi am ddyfodiad Eleias9Ar eu ffordd i lawr o’r mynydd rhoes yr Iesu orchymyn iddyn nhw i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn a welson nhw, hyd nes y byddai Mab y Dyn wedi codi o blith y meirw.
10A chadwodd y disgyblion y dywediad iddyn nhw eu hunain gan holi ei gilydd, beth a allai ystyr ‘Codi o farw’ fod.
11Felly dyma ofyn y cwestiwn iddo, “Pam y mae athrawon y Gyfraith yn dweud fod yn rhaid i Eleias ddod yn gyntaf?”
12Atebodd yntau, “Ydy, y mae Eleias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth; ac eto, paham y dywed yr Ysgrythurau am Fab y Dyn — ei fod i ddioddef llawer a chael ei sarhau?
13Ond credwch fi, mae Eleias wedi dod eisoes a gwnaeth pobl pa beth bynnag a fynnen nhw iddo yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd amdano.”
Y mab epileptig14Wedi iddyn nhw ddod nôl at y disgyblion, fe welson dyrfa fawr o’u hamgylch ac athrawon y Gyfraith yn dadlau â nhw.
15Cyn gynted ag y gwelodd y dyrfa yr Iesu fe’u trawyd â syndod mawr, a rhedodd pawb ato i’w gyfarch.
16Gofynnodd iddyn nhw, “Beth a ddadleuwch â nhw?”
17Atebodd rhyw ddyn o’r dyrfa, “Athro, dygais fy mab atat. Y mae ysbryd yn ei flino ac ni fedr siarad,
18a phryd bynnag yr ymafaelo ynddo y mae’n ei fwrw i’r llawr, ac y mae yntau’n malu ewyn, a rhincian ei ddannedd, ac yn mynd fel corff. Gofynnais i’th ddisgyblion fwrw’r ysbryd aflan allan, ond methu wnaethon nhw.”
19A dyma yntau’n eu hateb nhw, “O genhedlaeth ddi-gred, pa mor hir y mae’n rhaid i mi fod gyda chi? Pa mor hir y mae’n rhaid i mi’ch dioddef chi? Dewch ag ef ataf fi.”
20A dygwyd y bachgen ato. Cyn gynted ag y canfu’r Iesu ysgydwodd yr ysbryd y bachgen yn greulon, a syrthiodd yntau i’r llawr gan droi a gwingo a malu ewyn.
21Gofynnodd yr Iesu i’w dad, “Pa mor hir y bu fel hyn?”
“Ers pan oedd yn blentyn,” atebodd ei dad,
22“a bu’r ysbryd yn ceisio’i ddifetha lawer gwaith drwy ei hyrddio i’r tân neu i ddŵr. Os gelli wneud rhywbeth, tosturia wrthym a chymorth ni.”
23“Os gelli!” meddai’r Iesu wrtho. “Y mae popeth yn bosibl i ddyn a chanddo ffydd.”
24Yna llefodd tad y bachgen, “Rydw i’n credu. Cymorth fy anghrediniaeth.”
25Pan welodd yr Iesu fod y dyrfa’n cau o’i amgylch ceryddodd yr ysbryd aflan a dywedodd wrtho, “Ti ysbryd mud a byddar, rwy’n dy orchymyn, tyrd allan ohono a phaid byth â mynd i mewn iddo mwy.”
26Yna, â llef, gan ei ysgwyd drwyddo, daeth yr ysbryd allan ohono. Aeth y bachgen fel corff. Yn wir dywedodd llawer, “Y mae wedi marw.”
27Ond gafaelodd yr Iesu yn ei law, a safodd yntau ar ei draed.
28Pan aeth yr Iesu i’r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o’r neilltu, “Paham na allem ni ei fwrw allan?”
29Atebodd yntau, “Does dim modd bwrw ysbryd fel hwn allan ond drwy weddi.”
Rhybudd arall30Wedi ymadael â’r lle hwnnw fe aethon nhw ar daith drwy Galilea. Ni fynnai’r Iesu i neb wybod am eu siwrnai
31oherwydd ei fod wrthi’n dysgu ei ddisgyblion. Dywedodd wrthyn nhw, “Mae Mab y Dyn i gael ei roi yn nwylo dynion, ac fe’i lladdan nhw ef; ac wedi iddo gael ei ladd bydd yn atgyfodi ar ôl tridiau.”
32Ond nid oedden nhw’n deall hyn, ac fe ofnen ei holi.
Plentyn yn batrwm33Wedi iddyn nhw gyrraedd Capernaum, ac iddo yntau fynd i dŷ, gofynnodd iddyn nhw, “Am beth roeddech yn dadlau ar y ffordd?”
34Ddywedson nhw ddim oherwydd fe fuon nhw’n trafod ar y ffordd pwy ohonyn nhw oedd y mwyaf.
35Wedi eistedd galwodd yr Iesu y deuddeg a dywedodd wrthyn nhw, “Os yw rhywun am fod y cyntaf, rhaid iddo fod yr olaf, a bod fel un yn gweini ar bawb.”
36Yna cymerodd blentyn bach a’i roi i sefyll yn eu canol. Rhoes ei fraich amdano a dweud wrthyn nhw,
37“Pwy bynnag a dderbynio un o’r plant bach hyn yn f’enw i sydd yn fy nerbyn i, a phwy bynnag a’m derbynio i, nid myfi y mae’n ei dderbyn ond yr hwn a’m hanfonodd.”
Y cyd-weithiwr di-enw38Dywedodd Ioan wrtho, “Athro, gwelsom rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn d’enw di ac fe geisiasom ni ei rwystro gan nad oedd yn un ohonom ni.”
39Ond dywedodd yr Iesu, “Peidiwch â’i wahardd, oherwydd does neb a wna bethau nerthol yn f’enw i a fydd yn gallu mynd ar unwaith i siarad yn ddrwg amdanaf.
40Canys y sawl nid yw i’n herbyn, drosom y mae.
41Canys pwy bynnag a roddo gwpanaid o ddŵr i chi i’w yfed am eich bod yn perthyn i Grist, credwch chi fi, mae hwnnw’n hollol siŵr o’i wobr.
42A phwy bynnag a godo rwystrau ar ffordd un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof fi, gwell fyddai iddo gael ei daflu i’r môr, a maen melin mawr am ei wddf.
Rhwystrau personol43“Ac os yw dy law yn d’arwain ar gyfeiliorn, tor hi ymaith; mae’n well i ti fynd i mewn i’r bywyd yn anafus na chadw dy ddwy law a mynd i uffern, i’r tân anniffoddadwy.
45Ac os yw dy droed yn d’arwain ar gyfeiliorn, tor ef ymaith. Mae’n well i ti fynd i mewn i fywyd yn gloff na chadw dy ddau droed, a chael dy daflu i uffern.
47Ac os yw dy lygad yn d’arwain ar gyfeiliorn, tyn ef allan. Mae’n well i ti fynd i mewn i deyrnas Dduw ag un llygad na chadw’r ddau, a chael dy daflu i uffern,
48lle nid yw eu pryf yn marw na’r tân yn diffodd.
49“Oherwydd helltir pob un â thân.
50Y mae halen yn dda, ond os â’n ddi-hallt, pa fodd yr adferir ei halltrwydd? Bydded gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch mewn heddwch â’ch gilydd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.