1Fe ddaethon nhw i ochr arall y llyn, i wlad y Geraseniaid.
2Pan oedd yr Iesu’n ymadael â’r llong daeth dyn i gwrdd ag ef o blith y beddau — un ag ysbryd aflan ynddo,
3â’i gartref ymhlith y beddau. Ni allai neb mwyach ei rwymo, hyd yn oed â chadwyn.
4Er ei rwymo lawer gwaith, llwyddodd i rwygo’r cadwyni a chwalu’r llyffetheiriau. Doedd neb yn ddigon cryf i’w gadw dan reolaeth.
5Gwaeddai ddydd a nos ymhlith y beddau ac ar lethrau’r mynyddoedd, a thorrai ei hun â cherrig.
6Wedi gweld yr Iesu o bell rhedodd a syrthio ar ei liniau o’i flaen
7gan weiddi’n uchel, “Pam rwyt ti’n ymyrryd â mi, Iesu, Fab y Duw goruchaf? Rwy’n erfyn arnat yn enw Duw, paid â’m dirdynnu”,
8(oherwydd roedd yr Iesu wedi dweud wrtho, “Ti ysbryd aflan, tyrd allan o’r dyn”).
9A gofynnodd iddo, “Beth yw d’enw?”
Atebodd yntau, “Lleng yw f’enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”
10A dyma fe’n ymbilio’n daer arno am beidio â’u gyrru allan o’r wlad.
11Ac yno, ar lethrau’r mynydd, roedd cenfaint fawr o foch yn pori,
12a dyma’r ysbrydion yn erfyn ar yr Iesu, “Danfon ni i’r moch, a gad inni fynd i mewn iddyn nhw.”
13Fe gawson nhw ei ganiatâd. Aeth yr ysbrydion aflan allan o’r dyn ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint i lawr dros y dibyn i’r llyn — tua dwy fil ohonyn nhw — a boddi.
14Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y wlad a’r dref. Aeth y bobl allan i weld beth oedd wedi digwydd.
15Wedi dod at yr Iesu dyma weld y gwallgof a fu dan ddylanwad y cythreuliaid yn eistedd â dillad amdano, yn hollol glir ei feddwl. Rhoddodd hyn fraw iddyn nhw.
16A dyma’r rhai a welodd yr hyn a ddigwyddodd i’r dyn â’r cythraul ynddo ac i’r moch yn dweud yr hanes wrthyn nhw.
17Erfyniodd y bobl ar yr Iesu i ymadael â’u hardal.
18A phan oedd ar ei ffordd i’r llong dyma’r gŵr y bu’r cythraul ynddo yn erfyn ar yr Iesu am iddo gael aros gydag ef.
19Ni fynnai yntau ganiatáu hynny a dywedodd wrtho, “Dos di adref at dy bobl dy hun, a dweud wrthyn nhw gymaint a wnaeth yr Arglwydd drosot a’r ffordd y tosturiodd wrthyt.”
20Ac aeth y gŵr ymaith a chyhoeddi yn y Deg Tref gymaint a wnaeth yr Iesu drosto; a rhyfeddodd pawb.
Apêl Jairus21Wedi i’r Iesu groesi ’nôl i’r ochr arall, unwaith eto daeth tyrfa fawr iawn ato, ac roedd ef ar y traeth.
22A daeth un o lywyddion y synagog — dyn o’r enw Jairus — ymlaen ato. A phan welodd ef yr Iesu syrthiodd wrth ei draed
23ac erfyn yn daer arno a dweud, “Y mae fy merch fach yn marw. Tyrd a rho dy law arni er mwyn iddi gael gwella a byw.”
24Aeth yr Iesu gydag ef.
Y wraig a gyffyrddodd â’i wisgA dilynai tyrfa fawr ef ac ymwthio ato.
25Roedd gwraig yn eu plith a oedd wedi dioddef ers deuddeng mlynedd gan waedlif.
26Roedd hi wedi dioddef yn enbyd dan law nifer mawr o feddygon, a gwario ei harian yn llwyr, heb wella dim, ond yn hytrach mynd yn waeth o hyd.
27Wedi iddi glywed yr hanes am yr Iesu daeth o’r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â’i fantell
28a dweud yn ddistaw bach, “Dim ond i mi gael cyffwrdd â’i ddillad fe gaf wellhad.”
29A’r eiliad honno peidiodd y gwaedlif, ac fe wyddai hithau’n iawn ynddi ei hun iddi gael iachâd o’i hanhwylder.
30A’r un eiliad, am iddo deimlo bod rhyw rin wedi mynd allan ohono, trodd yr Iesu o gwmpas y dyrfa a gofyn, “Pwy a roddodd law ar fy nillad?”
31Dyma’i ddisgyblion yn ateb, “Rwyt yn gweld y dorf yn dy wasgu, a dyma ti’n gofyn, ‘Pwy a roddodd law arnaf?’ ”
32Er hynny dal i edrych o gwmpas a wnaeth i weld pwy oedd yn gyfrifol.
33A dyma’r wraig, yn crynu gan ofn am iddi sylweddoli beth oedd wedi digwydd iddi, yn dod a syrthio wrth ei draed a chyfaddef wrtho’r gwir i gyd.
34Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu. Dos mewn heddwch, yn rhydd am byth o’th anhwylder.”
Nôl gydag achos Jairus35A thra roedd yn siarad daeth rhywrai o dŷ llywydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw. I beth bellach y blini di’r Athro?”
36Ni roddodd yr Iesu ddim sylw i’r neges. Dywedodd wrth lywydd y synagog, “Paid ag ofni; yn unig cred.”
37Ni adawodd i neb fynd gydag ef ond Pedr ac Iago ac Ioan, brawd Iago.
38Wedi iddyn nhw gyrraedd tŷ llywydd y synagog, gwelodd yr Iesu’r terfysg a’r wylo a’r ochneidio,
39ac fe aeth i mewn a gofyn iddyn nhw, “Beth yw’r holl dwrw a’r holl wylo? Nid yw’r plentyn wedi marw ond cysgu y mae hi.”
40Ei wawdio wnaeth y bobl, ond wedi eu troi i gyd allan, dyma gymryd tad y plentyn a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn lle gorweddai’r ferch.
41Gafaelodd yn ei llaw a dywedodd wrthi, “Talitha Cwmi,” ac ystyr hynny yw, “Ferch fach, rwy’n dweud wrthyt, cod.”
42Cododd y ferch ar unwaith a dechrau cerdded — roedd yn ddeuddeng mlwydd oed. Trawyd pawb yn syn,
43a siarsiodd yr Iesu nhw’n bendant nad oedd neb i wybod am hyn; a dywedodd am roi rhywbeth i’r ferch i’w fwyta.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.