1Ar y Dydd Gorffwys, tua’r amser hwnnw, aeth yr Iesu drwy’r meysydd ŷd. A chan fod ar ei ddisgyblion eisiau bwyd, dyna nhw’n dechrau tynnu tywysennau oddi ar yr ŷd a’u bwyta.
2Gwelodd y Phariseaid nhw.
“Edrych,” medden nhw wrth yr Iesu, “mae dy ddisgyblion di’n gwneud peth mae’r Ysgrythur yn ei wahardd ar y Dydd Gorffwys.”
3“Ddarllensoch chi ddim beth wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno fe a’i gymdeithion?” meddai’r Iesu.
4“Sut yr aeth i Dŷ Dduw a bwyta’r bara cysegredig, nad oedd hawl ganddo fe na’i gymdeithion i’w fwyta, dim ond yr offeiriaid yn unig?
5Welsoch chi ddim yn y Gyfraith fod yr offeiriaid yn y Deml ar y Dydd Gorffwys yn torri’r Dydd Gorffwys a neb yn eu beio?
6Credwch chi fi, mae rhywbeth mwy na’r Deml yma.
7Pe baech chi wedi deall ystyr y geiriau, ‘Am drugaredd rydw i’n gofyn, nid am aberth’; fyddech chi ddim wedi condemnio dynion diniwed.
8Mae Mab y Dyn yn Arglwydd ar y Dydd Gorffwys hefyd.”
Y dyn â’i law wedi gwywo9Aeth yr Iesu yn ei flaen i le arall ac aeth i mewn i’w synagog,
10lle digwyddai fod dyn â’i law wedi gwywo. Dyma nhw’n ei holi, “Oes hawl i iacháu rhywun ar y Dydd Gorffwys?” (Eu bwriad oedd cael achos yn ei erbyn.)
11Meddai yntau wrthyn nhw, “Bwriwch fod gennych un ddafad, a honno wedi cwympo i bwll ar y Dydd Gorffwys; oes un ohonoch chi na fyddai’n gafael yn dynn ynddi a’i chodi allan?
12Yn sicr mae dyn yn llawer mwy o werth na dafad! Felly, mae pob hawl i wneud daioni ar y Dydd Gorffwys.”
13Yna trodd at y dyn, ac meddai wrtho, “Estyn dy law allan.” Dyma yntau’n ei hestyn. A daeth ei grym yn ôl iddi fel y llall.
14Ond mynd allan wnaeth y Phariseaid a chynllunio yn ei erbyn sut i gael gwared ohono.
Cymeriad Gwas yr Arglwydd15Fe wyddai Iesu am hyn ac fe giliodd oddi yno. Aeth llawer ar ei ôl, ac yntau’n eu gwella oll,
16gan eu siarsio i beidio â’i wneud ef yn hysbys,
17er mwyn i air y proffwyd Eseia ddod yn wir:
18“Dyma fy ngwas, a ddewisais i,
F’anwylyd sydd wrth fy modd;
Fe osodaf f’ysbryd arno,
Fe gyhoedda yntau farn ymhlith y cenhedloedd.
19Ni fydd ef yn cweryla nac yn gweiddi,
’Fydd neb yn clywed ei lais yn y strydoedd.
20Ni fydd ef yn torri’r gorsen a sigwyd,
Nac yn diffodd y pabwyr sy’n mud-losgi,
Nes iddo dywys barn i fuddugoliaeth.
21Ac ynddo ef y gwêl y cenhedloedd eu gobaith.”
Tanseilio dadl ddieflig22Yna fe ddaethon nhw â dyn ym meddiant cythraul ato, yn ddall ac yn fud; mae’r Iesu’n ei iacháu, ac yntau’n dod i siarad a gweld.
23Roedd yr holl bobl wedi synnu, ac medden nhw, “Dydy hwn, erioed, yn Fab Dafydd?”
24Ond pan glywodd y Phariseaid, medden nhw, “Trwy allu Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, a dim arall, y mae hwn yn gyrru allan gythreuliaid.”
25Fe wyddai beth oedd yn eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Pob teyrnas wedi ymrannu, mae’n siŵr o chwalu, a phan fo dinas neu deulu wedi ymrannu, syrthio wna’r rhain hefyd.
26Os yw Satan yn gyrru Satan allan, mae yntau wedi ymrannu, a sut gall ei deyrnas sefyll?
27Ac os drwy allu Beelsebwl rydw i’n gyrru cythreuliaid allan, trwy help pwy y mae’ch dilynwyr chi’n eu gyrru nhw allan? Am hyn y byddan nhw’u hunain yn eich condemnio chi.
28Ond os trwy Ysbryd Duw rydw i’n gyrru allan gythreuliaid, mae’n rhaid bod teyrnasiad Duw wedi dod arnoch yn barod.
29“Neu eto, sut y gall unrhyw un dorri i mewn i dŷ dyn cryf a dwyn ei bethau heb iddo yn gyntaf rwymo’r dyn cryf? Wedyn fe all ysbeilio’r tŷ.
30“Mae pwy bynnag nad yw gyda mi yn f’erbyn i, a phwy bynnag nad yw’n casglu gyda mi mae’n gwasgaru.
31“Gan hynny, gwrandewch hyn: mae maddeuant i’w gael am bob pechod a chabledd; ond am gabledd yn erbyn yr Ysbryd, does dim maddeuant i’w gael.
32Mae maddeuant i bwy bynnag sy’n dweud gair yn erbyn Mab y Dyn, ond nid i’r sawl sy’n siarad yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn y byd hwn nac yn y byd sydd i ddod.
33“Rhaid ichi ddewis rhwng pren da yn dwyn ffrwyth da, neu bren afiach yn dwyn ffrwyth afiach. Gellir nabod pren wrth ei ffrwyth.
34O! epil nadroedd! Sut y gall eich geiriau chi fod yn dda a’ch calonnau chi’n ddrwg? Oblegid fel y bydd y galon y bydd y geiriau.
35Mae’r dyn da’n dwyn pethau da allan o’i stôr o ddaioni, a’r dyn drwg yn dwyn pethau drwg o’i stôr.
36Gwrandewch: pan ddaw dydd y farn fe fydd rhaid i bob dyn roi cyfrif am bob gair difeddwl a ddaeth dros ei wefusau.
37Dy eiriau fydd yn penderfynu p’un ai dy gael yn ddieuog neu yn euog y byddi di.”
Iesu’n gwrthod arwydd38A dyma rai o athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid yn dweud, “Athro, fe garem ni weld arwydd gen ti.”
39Atebodd yntau, “Cenhedlaeth ddrwg ac annuwiol sy’n ceisio arwydd; a’r unig arwydd gaiff yw arwydd y proffwyd Jona.
40Oblegid fel y bu Jona ym mol anghenfil-y-môr dridiau a thair noson, felly y bydd Mab y Dyn dridiau a thair noson yng nghrombil y ddaear.
41Fe gwyd dynion Ninefe gyda’r genhedlaeth hon yn nydd y farn a’i chondemnio hi, o achos pan bregethodd Jona iddyn nhw fe newidiodd y rheiny eu ffordd o fyw; ac mae rhywbeth mwy na Jona yma.
42Fe gwyd Brenhines y De yn erbyn y genhedlaeth hon yn nydd y farn a’i chondemnio hi, o achos fe ddaeth hi o ben draw’r byd i wrando ar ddoethineb Solomon; ac mae rhywbeth mwy na Solomon yma.”
Perygl y galon wag43“Pan fo ysbryd aflan yn cael ei fwrw allan o ddyn mae’n crwydro drwy leoedd sychion yn chwilio am orffwys; o fethu ei gael
44mae’n dweud, ‘Mi af i’n ôl i’r tŷ a adewais.’ Felly mae’n dychwelyd, ac yn cael y tŷ yn lân a threfnus, ond yn wag.
45I ffwrdd ag ef i gael hyd i saith ysbryd gwaeth nag ef ei hun, ac fe ddôn nhw i gyd a gwneud eu hunain yn gartrefol yno; ac y mae cyflwr y dyn hwnnw’n waeth ar y diwedd nag ar y dechrau. Felly’n union y bydd hi yn hanes y genhedlaeth ddrwg hon.”
Teulu’r Iesu46Roedd e’n dal i siarad â’r dyrfa pan ddaeth ei fam a’i frodyr, gan sefyll y tu allan a dymuno cael gair ag ef.
47“Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll tu allan yn dymuno cael gair â thi,” meddai rhywun wrtho.
48Meddai yntau wrth ateb y sawl a ddaeth â’r neges, “Pwy yw fy mam i, a phwy yw fy mrodyr i?”
49Yna gan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam i a’m brodyr i.
50Pwy bynnag a wnêl ewyllys fy Nhad nefol, hwnnw sy’n frawd i mi, a chwaer, a mam.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.