Mathew 28 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Yr Atgyfodiad

1A’r Dydd Gorffwys drosodd, a dydd cynta’r wythnos ar wawrio, fe ddaeth Mair o Fagdala a’r Fair arall i edrych y bedd.

2A dyna ddaeargryn fawr, angel yr Arglwydd yn disgyn o’r nef, mynd at y garreg, ei rholio ymaith, ac eistedd arni.

3Roedd ei wyneb yn disgleirio fel mellten a’i wisg yn wyn fel eira.

4Fe wnaeth yr olwg arno i’r gwarchodwyr grynu gan ofn, a bod fel rhai wedi marw.

5Yna fe drodd yr angel at y gwragedd: “Amdanoch chi,” meddai, “does gennych chi ddim achos i ofni.

6Fe wn mai chwilio rydych am Iesu a groeshoeliwyd. Dydy ef ddim yma; mae ef wedi ei godi o farw’n fyw, fel y dywedodd. Dewch i weld y lle y bu’n gorwedd,

7yna, ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion: ‘Mae ef wedi ei godi o farw’n fyw ac yn mynd o’ch blaen chi i Galilea; yno fe’i gwelwch ef.’ Dyna fi wedi dweud fy neges.”

8Fe aeth y gwragedd i ffwrdd ar frys oddi wrth y bedd, yn llawn arswyd a llawenydd mawr, gan redeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.

9Yn ddisymwth, dyna Iesu’n eu cyfarfod ac yn eu cyfarch; a dyna nhwythau’n dod ymlaen ato, gafael yn ei draed, a’i addoli.

10Yna meddai Iesu wrthyn nhw, “Peidiwch ag ofni. Ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am gychwyn i Galilea. Fe gânt fy ngweld i yno.”

Taenu anwiredd ar led

11Tra roedd y gwragedd ar eu ffordd, daeth rhai o’r gwylwyr i’r ddinas a dweud yr holl hanes wrth y prif offeiriaid.

12Fe aeth y rheiny’n syth at yr henuriaid i ymgynghori, yna rhoi arian mawr i’r milwyr,

13a’u siarsio, “Dywedwch fod ei ddisgyblion wedi dod yn y nos a lladrata’r corff tra roeddem ni’n cysgu.

14Os daw hyn i glustiau’r rhaglaw, fe wnawn ni bopeth yn iawn gydag ef, a gwneud yn siŵr na chewch chi eich poeni.”

15Fe gymerson nhw’r arian, a gwneud fel y siarsiwyd nhw. Fe aeth y stori hon ar led, ac fe’i clywir ymhlith yr Iddewon hyd heddiw.

Rhoi comisiwn i’r disgyblion

16Fe aeth yr un-disgybl-ar-ddeg i Galilea i’r mynydd fel y dywedodd Iesu wrthyn nhw,

17ac wedi ei weld yno dyma nhw’n plygu o’i flaen; ond fe amheuodd rhai.

18A daeth Iesu a dweud wrthyn nhw: “I mi y rhoddwyd pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.

19Ewch a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

20a’u dysgu i gadw fy ngorchmynion i gyd. Ac yn wir, rydw i gyda chi bob amser hyd ddiwedd amser.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help