1Yna dechreuodd siarad â nhw ar ddamhegion, “Plannodd rhyw ddyn winllan. Gosododd glawdd o’i chwmpas, cloddio cafn gwin ynddi, a chodi tŵr gwylio; yna ei gosod hi i winllanwyr, a mynd oddi cartref.
2Pan ddaeth amser cynhaeaf gwin fe anfonodd was at y gwinllanwyr i gael cynnyrch y winllan ganddyn nhw,
3ond dal y gwas wnaethon nhw a rhoi curfa iddo, a’i yrru ymaith yn waglaw.
4Danfonodd was arall atyn nhw, ond clwyfo hwnnw yn ei ben wnaethon nhw, a rhoi triniaeth gywilyddus iddo.
5Felly, danfonodd un arall eto, ond lladdodd y gweithwyr hwnnw; ac felly hefyd lawer eraill — curo rhai, a lladd y lleill.
6Roedd ganddo un ar ôl i’w ddanfon — mab annwyl. Anfonodd ef yn olaf atyn nhw. ‘Maen nhw’n siŵr o barchu fy mab i,’ meddai.
7Ond dywedodd y gweithwyr hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw’r etifedd. Dewch i ni gael ei ladd, ac yna ni fydd piau’r etifeddiaeth.’
8A dyma nhw’n gafael ynddo, a’i ladd, a’i daflu allan o’r winllan.
9Beth a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha’r gwinllanwyr hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.
10Oni ddarllensoch yn yr Ysgrythur?
‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
A wnaed yn ben congl-faen.
11Gwaith yr Arglwydd yw hyn,
A rhyfedd yw yn ein golwg ni’.”
12Fe aethon nhwythau ati i chwilio ffordd i’w gymryd i’r ddalfa, oherwydd fe welen nhw yn iawn mai yn eu herbyn nhw yr adroddodd y ddameg. Ond roedd arnyn nhw ofn y dyrfa, ac felly fe roeson nhw lonydd iddo, a mynd ymaith.
Teyrnged i Gesar13Gyrrwyd rhai o’r Phariseaid a dilynwyr Herod ato i geisio’i rwydo â chwestiynau.
14Fe ddaethon nhw ymlaen ato a dweud, “Feistr, fe wyddom dy fod ti’n ddyn gonest, ac nad wyt yn malio dim am neb. Peth dibwys i ti yw barn pobl ac rwyt yn dysgu yn gwbl ddidwyll ewyllys Duw ar gyfer dyn. Ydy hi’n iawn inni dalu treth i Gesar ai peidio? A ddylem dalu ai peidio?”
15Ond fe welodd yr Iesu eu rhagrith a gofynnodd iddyn nhw, “Pam rydych yn ceisio fy rhwydo? Rhowch i mi swllt. Gedwch imi ei weld.”
16Wedi iddyn nhw estyn un iddo fe ofynnodd, “Llun ac enw pwy sy ar hwn?”
“Cesar,” oedd eu hateb.
17“Yna,” dywedodd yr Iesu, “telwch i Gesar yr hyn sy’n ddyledus iddo ef, a thelwch i Dduw yr hyn sy’n ddyledus iddo yntau.”
Ni allen nhw ond rhyfeddu ato.
Ynglŷn â’r Atgyfodiad18A daeth rhai o blith y Sadwceaid ato. (Nhw yw’r rhai sy’n dweud nad oes atgyfodiad.) Dyma eu cwestiwn iddo:
19“Athro, rhoddodd Moses orchymyn i ni sy’n dweud fel hyn, ‘Pan fydd brawd dyn farw a gadael gwraig, ond heb adael plant, yna cymered ei frawd y weddw, a choded blant i’w frawd.’
20Nawr roedd saith o frodyr. Priododd y cyntaf a bu farw’n ddi-blant.
21Yna priododd yr ail hi, a bu yntau farw’n ddi-blant. Felly hefyd y trydydd.
22A bu farw’r saith — pob un ohonyn nhw heb adael plant. Ac yn olaf bu farw’r wraig.
23Yn yr atgyfodiad, pan atgyfodan nhw, gwraig i ba un ohonyn nhw fydd hi, oherwydd bu’r saith yn briod â hi?”
24Atebodd yr Iesu, “Onid ydych yn camsynied am nad ydych chi’n deall na’r Ysgrythurau na gallu Duw?
25Pan gwyd gwŷr a gwragedd o feirw ni fydd neb yn priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nef.”
26Ynglŷn ag atgyfodiad y rhai sydd wedi marw, ydych chi ddim wedi darllen yn stori’r berth yn llosgi yn Llyfr Moses sut y siaradodd Duw ag ef gan ddweud wrtho, “Myfi yw Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.
27Nid yw Duw yn Dduw y meirw, ond y rhai byw. Gwnaethoch gamsyniad dirfawr.”
Y prif orchymyn28Yna daeth un o athrawon y Gyfraith a fu’n gwrando ar y dadlau — un a sylwodd mor dda roedd atebion yr Iesu’n taro — a gofynnodd yntau iddo, “P’un yw’r gorchymyn cyntaf oll?”
29Atebodd yr Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando O Israel, Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw;
30ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, â’th holl enaid, â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.’
31A’r ail yw hwn, ‘Câr dy gyd-ddyn fel ti dy hun,’ Does dim gorchymyn arall sy’n fwy na’r rhai hyn.”
32Dywedodd athro’r Gyfraith wrtho, “Da iawn, Athro. Dywedaist yn iawn mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond ef,
33a bod i ddyn ei garu ef â’r holl galon ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth a charu ei gyd-ddyn fel ef ei hun, yn llawer mwy na’r holl boethoffrymau ac aberthau.”
34Wedi gweld pa mor synhwyrol yr atebodd, dywedodd yr Iesu wrtho, “Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnasiad Duw.”
Wedi hyn ni fentrodd neb ofyn rhagor o gwestiynau iddo.
Perthynas Dafydd â’r Meseia35Yna, wrth ddysgu yn y Deml gofynnodd yr Iesu, “Sut y mae athrawon y Gyfraith yn gallu dweud bod y Meseia yn fab Dafydd?
36Dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fe ddywedodd Dafydd ei hun,
‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy llaw ddeau
Hyd nes i mi osod dy elynion yn droedfainc i ti.’
37Geilw Dafydd ei hun ef yn Arglwydd. Sut y gall fod yn fab iddo hefyd?”
Beirniadu athrawon y GyfraithGwrandawai’r dyrfa fawr yn eiddgar arno.
38Ac wrth eu dysgu dywedodd wrthyn nhw, “Byddwch ar eich gwyliadwriaeth rhag athrawon y Gyfraith, sy’n hoffi cerdded o gylch y lle mewn dillad llaes, a chael pobl i foesymgrymu iddyn nhw yn gyhoeddus,
39a’r seddau blaen yn y synagogau, a’r lleoedd gorau mewn gwleddoedd.
40Fe ân nhw ag eiddo’r gwragedd gweddwon oddi arnyn, a gweddïo’n faith er mwyn cael eu gweld. Trymaf i gyd fydd y ddedfryd arnyn nhw.”
Yr offrwm41Pan oedd yn eistedd gyferbyn â thrysorfa’r Deml, gwelai’r bobl yn bwrw eu harian i mewn i’r blwch casglu. Rhoddai llawer o wŷr cefnog arian mawr i mewn, ac yna,
42daeth un wraig weddw dlawd a bwrw i mewn ddau ddarn bychan iawn, hynny yw, ffyrling.
43Galwodd yntau ei ddisgyblion ato a dweud wrthyn nhw, “Credwch fi, rhoddodd y weddw dlawd hon fwy na neb a fwriodd eu rhoddion i’r drysorfa,
44oherwydd rhoi o’u digon a mwy a wnaeth y lleill, ond rhoddodd hon o’i thlodi bopeth, cymaint ag a feddai — ei bywoliaeth i gyd.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.