1Wedi ymadael â’r lle hwnnw, daeth i’w hen gynefin, a’i ddisgyblion yn ei ddilyn.
2A phan ddaeth y Dydd Gorffwys dechreuodd ddysgu yn y synagog. Wrth wrando arno aeth llaweroedd yn syn. “O ble,” medden nhw, “cafodd ef hyn i gyd?” a “Pa beth yw’r ddoethineb a roddwyd iddo?” a “Sut y medr wneud cymaint o wyrthiau?
3Onid hwn yw’r saer, mab Mair, a brawd Iago a Joses a Jwdas a Simon? ac onid yw ei chwiorydd yma gyda ni?”
Roedden nhw’n gwrthod ei gredu.
4A dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Fe gaiff proffwyd anrhydedd ym mhob man ond yn ei fro ei hun, ac ymhlith ei gydnabod, ac yn ei gartref ei hun.”
5Ac ni allai wneud dim gwyrthiau yno, ac eithrio rhoi ei ddwylo ar rai cleifion, a’u gwella.
6A synnai’r Iesu’n fawr at eu diffyg ffydd.
Gêr y disgyblionAc fe aeth o amgylch y pentrefi gan ddysgu.
7Wedi galw ato’r deuddeg fe’u danfonodd nhw allan bob yn ddau, gan roi awdurdod iddyn nhw ar ysbrydion aflan
8a chan eu siarsio i beidio â mynd â dim gyda nhw ar y daith — ond ffon yn unig — dim bara, dim pwrs, na dim pres yn eu gwregys.
9Roedden nhw i fynd â sandalau am eu traed, ond doedden nhw ddim i wisgo dau grys.
10Ac meddai wrthyn nhw, “Pa dŷ bynnag yr ewch iddo, lletywch yn y tŷ hwnnw hyd nes y byddwch yn ymadael â’r lle.
11Os bydd i rywun wrthod rhoi croeso i chi yn rhywle, a gwrthod eich gwrando, wrth fynd oddi yno ysgydwch ymaith y llwch oddi ar eich traed fel protest yn eu herbyn.”
12A dyma nhw’n mynd ar eu taith, gan alw ar bawb i newid eu ffordd o fyw.
13Buon nhw’n bwrw allan lawer o gythreuliaid, ac eneinio llawer o gleifion ag olew, a’u gwella.
Dyfarniad Herod14Ac fe glywodd y brenin Herod am yr Iesu gan fod ei enw wedi dod i fri. A dywedodd rhai pobl, “Cododd Ioan Fedyddiwr o farw, a dyna pam y mae’r pwerau hyn ar waith ynddo.”
15Dywedai eraill, “Eleias yw hwn,” tra ceid eraill eto yn dweud, “Proffwyd tebyg i un o’r hen broffwydi yw.”
16Ond pan glywodd Herod fe ddywedodd, “Ioan wedi codi o farw yw hwn — yr Ioan y torrais ei ben.”
17Roedd yr Herod hwn wedi anfon i gymryd Ioan i’r ddalfa, ac wedi ei rwymo yng ngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am iddo’i phriodi;
18roedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Does gen ti ddim hawl i gymryd gwraig dy frawd.”
19Roedd Herodias, felly, yn ddig wrtho, ac yn awyddus i gael gwared ohono, ond ni allai,
20oherwydd roedd Herod yn ofni Ioan gan y gwyddai ei fod yn ŵr cyfiawn a santaidd, ac am hynny, fe ofalai am ei ddiogelu. Pan glywai ef Ioan yn siarad fe aflonyddid arno’n dost, ond er hynny, hoffai wrando arno.
Adduned fyrbwyll21Ond fe ddaeth diwrnod cyfleus pan wnaeth Herod wledd ar ei ben-blwydd i’w bendefigion a’r cadfridogion a gwŷr mawr Galilea,
22a merch Herodias yn dod a dawnsio iddyn nhw, a rhoi cymaint o fwynhad i’r brenin a’i gwmni fel y dywedodd Herod wrthi, “Gofyn i mi am unrhyw beth a fynni, ac fe’i rhoddaf iti,”
23gan dyngu iddi, “Fe roddaf iti beth bynnag a ofynni imi, hyd at hanner fy nheyrnas.”
24Aeth hithau allan a gofyn i’w mam, “Am beth y gofynnaf?”
Atebodd honno, “Pen Ioan Fedyddiwr.”
25Prysurodd yr eneth yn ôl ar unwaith at y brenin a dweud, “Rwy am iti roi imi yn ddioed ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.”
26Parodd hyn ofid mawr i’r brenin, ond oherwydd yr addewid a wnaeth ar lw yng nghlyw y rhai a eisteddai yno ni fynnai dorri ei air iddi.
27Gyrrodd un o’i warchodlu, felly, gan orchymyn iddo ddod â phen y proffwyd iddo. Fe aeth hwnnw a thorrodd ei ben ef yn y carchar,
28a daeth â’r pen ar ddysgl a’i roi i’r eneth, a hithau yn ei thro yn ei roi i’w mam.
29Wedi i’w ddisgyblion glywed, fe ddaethon nhw i gymryd ei gorff ef a’i ddodi mewn bedd.
Defaid di-fugail30A daeth yr apostolion ynghyd at yr Iesu ac adrodd wrtho bopeth y buon nhw yn ei wneud a’i ddysgu.
31Ac meddai ef wrthyn nhw, “Dewch o’r neilltu i rywle diarffordd, a gorffwyswch dipyn.”
Roedd cymaint yn mynd a dod fel nad oedd hamdden ganddyn nhw hyd yn oed i gymryd pryd o fwyd.
32Fe aethon nhw ymaith, felly, mewn llong i le anial o’r neilltu,
33ond fe welodd llawer nhw’n mynd, a’u hadnabod, a dod ar garlam dros y tir o’r holl ddinasoedd a chael y blaen arnyn nhw.
34Wrth lanio gwelodd yr Iesu dyrfa fawr, a thosturiodd wrthyn nhw am eu bod fel defaid heb fugail, a dechreuodd ddysgu llawer iddyn nhw.
Porthi’r Pum Mil35Erbyn hyn roedd hi’n hwyr yn y dydd, a daeth ei ddisgyblion ato ef a dweud, “Mae’r lle hwn yn unig, a hithau’n hwyrhau.
36Dyro iddyn nhw ryddid i fynd i’r ffermydd a’r pentrefi o amgylch i brynu rhywbeth iddyn nhw eu hunain i’w fwyta.”
37“Rhoddwch chi beth iddyn nhw i’w fwyta,” atebodd yntau.
Eu hateb nhwythau oedd, “A wariwn ni ugain punt ar fara i’w roi iddyn nhw i’w fwyta?”
38Gofynnodd yntau, “Faint o dorthau sydd gennych? Ewch i weld.”
Ac wedi cael gwybod, eu hateb oedd, “Pump, a dau bysgodyn.”
39Yna rhoddodd orchymyn iddyn nhw i gyd i eistedd yn gwmnïoedd ar y borfa las;
40a nhwythau’n eistedd yn rhesi o gant neu hanner cant.
41A chan gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn ac edrych tua’r nef, fe’u bendithiodd, ac yna fe dorrodd y torthau a’u hestyn i’w ddisgyblion i’w rhoi o’u blaenau. Rhannodd y ddau bysgodyn hefyd rhyngddyn nhw i gyd.
42Bwytaodd pawb a chael eu gwala.
43A chasglwyd deuddeg basgedaid yn llawn o friwsion a thameidiau o bysgod,
44ac roedd rhif y gwŷr a fu’n bwyta’r torthau yn bum mil.
45Yn union wedyn gwnaeth yr Iesu i’w ddisgyblion fynd i’r llong a mynd ymlaen i’r ochr arall i Fethsaida tra byddai ef yn anfon y dyrfa ymaith.
46Yna, wedi iddo ffarwelio â phawb aeth i fyny i’r mynydd i weddïo.
Cerdded ar y Dŵr47Erbyn hwyr y dydd roedd y llong allan ar ganol y llyn ac yntau wrtho’i hun ar y lan. Rhwng tri a chwech o’r gloch y bore,
48a’r Iesu’n eu gweld mewn helbul yn rhwyfo gan fod y gwynt yn eu herbyn, daeth atyn nhw, gan gerdded ar y llyn. Roedd yn mynd i basio heibio iddyn nhw,
49ond wrth ei weld yn cerdded ar y llyn, fe dybiodd y disgyblion mai drychiolaeth oedd, a dyma nhw’n rhoi bloedd.
50Roedden nhw i gyd wedi ei weld ac wedi dychrynu. Ond siaradodd â nhw ar unwaith a dweud wrthyn nhw, “Codwch eich calon. Fi sydd yma. Peidiwch ag ofni.”
51Dringodd atyn nhw i’r llong; a thawelodd y gwynt. Roedd eu syndod yn fawr dros ben
52gan nad oedden nhw wedi deall yr hyn a oedd wedi dod i’r amlwg ynglŷn â’r torthau gan fod eu meddyliau wedi eu cau.
Clinig awyr-agored53Ac wedi croesi fe ddaethon nhw i dir yn Gennesaret a bwrw angor yno.
54Cyn gynted ag y daethon nhw i’r lan gwelwyd mai yr Iesu oedd yno
55ac fe aeth pawb ar frys o amgylch yr ardal a dwyn y cleifion ar welyau i ba le bynnag y clywen nhw ei fod ef ar y pryd.
56A pha le bynnag yr âi — i bentref neu dref neu ardal wledig — roedden nhw’n gosod y rhai methedig yn y mannau canolog, a’r rheiny’n erfyn am gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei fantell. Ac fe gâi’r rhai a gyffyrddodd ag ef eu gwella.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.