Marc 8 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Bwyd i’r lliaws eto

1Yn y dyddiau hynny roedd tyrfa fawr unwaith eto heb fod ganddyn nhw ddim i’w fwyta. Galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato gan ddweud wrthyn nhw,

2“Rwy’n teimlo i’r byw dros y bobl hyn. Maen nhw wedi aros gyda mi ers tridiau, a does ganddyn nhw ddim i’w fwyta.

3Os anfonaf nhw adref yn newynog fe fyddan nhw’n llewygu ar y ffordd gan fod rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”

4Atebodd y disgyblion ef, “Pa fodd y gall neb fwydo’r rhain â bara yn y lle anial hwn?”

5Gofynnodd yntau iddyn nhw, “Sawl torth sy gennych?”

“Saith,” medden nhw.

6Dyma yntau’n gorchymyn i’r dyrfa eistedd ar y ddaear, a chan gymryd y saith dorth, rhoddodd ddiolch, ac yna, fe’u torrodd a’u hestyn i’r disgyblion i’w rhannu; a dyma nhwythau’n eu rhoi i’r dyrfa.

7Roedd ganddyn nhw hefyd ychydig o fân bysgod, ac wedi eu bendithio gorchmynnodd rannu’r rheiny hefyd.

8Bwytaodd pawb a chael eu gwala, a chasglwyd saith basgedaid o’r briwfwyd a oedd ar ôl.

9Roedd pedair mil yno. Yna gollyngodd y bobl ymaith

10ac aeth i long ar unwaith gyda’i ddisgyblion a dod i ardal Dalmanutha.

Cais am arwydd

11A daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef gan ofyn iddo am arwydd o’r nef, er mwyn rhoi prawf arno.

12Rhoddodd yntau ochenaid o ddyfnder ei enaid a dywedodd, “Pam y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Rwy’n dweud yn derfynol, ni roddir yr un arwydd i’r genhedlaeth hon.”

13Yna gadawodd nhw a mynd i’r llong eilwaith a chroesi i’r ochr draw.

Surdoes a bara

14Anghofiodd y disgyblion ddod â bara, a dim ond un dorth oedd ganddyn nhw yn y llong.

15Rhoddodd yr Iesu rybudd iddyn nhw ac meddai, “Cymerwch ofal, a gwyliwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”

16Ac medden nhw wrth ei gilydd, “Am nad oes bara gyda ni.”

17Fe wyddai ef beth oedd yn eu meddyliau a dywedodd wrthyn nhw, “Pam y trafod am nad oes gennych fara? Ydych chi ddim yn gweld na deall eto? Ydy’ch meddyliau wedi cau?

18Mae gyda chi lygaid, ydych chi ddim yn gweld? Mae gyda chi glustiau, ydych chi ddim yn clywed? Ydych chi ddim yn cofio

19pa sawl basgedaid o friwsion godsoch chi wedi i mi dorri’r pum torth ar gyfer y pum mil?”

“Deuddeg,” oedd eu hateb.

20“A beth am y saith dorth a rennais rhwng y pedair mil, pa sawl llond basged a gasglwyd?”

“Saith,” medden nhw.

21A dywedodd yntau wrthyn nhw, “Ydych chi ddim yn deall eto?”

Iacháu’r Dall

22A dyma nhw’n cyrraedd Bethsaida. Ac fe ddaeth y bobl â dyn dall a gofyn iddo roi ei law arno.

23Cymerodd law y dyn dall a’i arwain allan o’r pentref. Yna poerodd ar ei lygaid ef a rhoi ei ddwylo arno a gofyn iddo, “Wyt ti’n gweld rhywbeth?”

24A chan godi ei olwg dywedodd y dall, “Rwy’n gallu gweld dynion, ond maen nhw’n edrych fel coed yn symud.”

25Unwaith eto rhoddodd yr Iesu ei ddwylo ar lygaid y gŵr, ac edrychodd yntau yn graff. Roedd yn awr wedi ei wella, a gwelai bopeth yn glir.

26Yna anfonodd yr Iesu ef adref gan ddweud wrtho, “Paid â mynd hyd yn oed i mewn i’r pentref.”

“Pwy ydw i?”

27Aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i’r pentref o gylch Cesarea Philipi, ac ar y ffordd gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn dweud ydw i?”

28A’u hateb oedd, “Yn ôl rhai, Ioan Fedyddiwr wyt ti; Eleias yn nhyb eraill; ac un o’r proffwydi ym marn rhai eraill.”

29“Ond pwy ydych chi yn dweud ydw i?” gofynnodd.

Atebodd Pedr, “Ti yw’r Meseia.”

30Ac fe’u rhybuddiodd yn llym i beidio â dweud wrth neb amdano.

31Yna ymrodd i’w dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith, a’i ladd, ac atgyfodi wedyn ar ôl tri diwrnod.

32Siaradodd am y cyfan yn hollol agored. A dyma Pedr yn gafael ynddo a’i geryddu.

33Trodd yr Iesu ato ac edrych ar ei ddisgyblion a cheryddu Pedr a dweud wrtho, “Dos oddi yma, Satan, canys rwyt yn meddwl fel y mae dynion ac nid fel y mae Duw.”

34Yna, wedi galw y dyrfa a’i ddisgyblion ato dywedodd wrthyn nhw, “Os oes rhywun am fy nilyn i rhaid iddo wadu ei hunan yn llwyr, codi’i groes, a ’nghanlyn i.

35Mae’r sawl sydd am achub ei fywyd ei hun yn ei golli, ond mae’r sawl sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl yn mynd i’w gadw.

36Faint gwell yw dyn o ennill y byd i gyd a cholli ei wir fywyd?

37Beth yn wir a fedr dyn ei roi yn gyfnewid am ei wir fywyd?

38Pwy bynnag sydd arno gywilydd ohonof fi a’m geiriau yn yr oes ofer a drygionus hon bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohono yntau pan ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’r angylion santaidd.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help