Marc 4 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Dameg yr Heuwr

1Unwaith eto dechreuodd ddysgu ar lan y llyn. Roedd cymaint o bobl wedi casglu o’i gwmpas fel yr aeth i gwch ar y llyn, ac eistedd yno tra safai’r holl dyrfa ar y lan, hyd at ymyl y dŵr.

2Dysgodd lawer o bethau iddyn nhw ar ddamhegion, ac wrth ddysgu meddai wrthyn nhw,

3“Gwrandewch. Fe aeth heuwr allan i hau.

4A phan oedd wrthi’n hau, syrthiodd peth o’r had ar ochr y ffordd, a daeth yr adar a’i fwyta.

5Syrthiodd peth arall ar dir creigiog lle roedd y pridd yn brin. Eginodd hwnnw ar unwaith am nad oedd iddo ddyfnder daear,

6ond llosgwyd ef yn dost pan gododd yr haul, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.

7Disgynnodd peth arall i ganol drain, a thyfodd y drain a’i dagu, ac ni roddodd yntau ffrwyth.

8Ond syrthiodd peth arall ar dir da, gan egino’n gryf a thyfu a rhoi cnwd — hyd ddeg ar hugain gwaith cymaint, a thrigain gwaith cymaint a chanwaith cymaint.

9Os oes gennych glustiau i glywed, gwrandewch,” meddai wrthyn nhw.

Yn eisiau — esboniad!

10A phan oedd ar ei ben ei hun dechreuodd y rhai oedd o’i amgylch gyda’r deuddeg ei holi am y damhegion.

11Atebodd yntau, “I chi y rhoddwyd cyfrinach teyrnas Dduw, ond i’r rhai sydd y tu allan bydd y cwbl ar ddamhegion,

12fel na welon nhw er iddyn nhw edrych ac edrych, ac na ddeallon nhw er iddyn nhw glywed a chlywed, rhag digwydd iddyn nhw newid eu ffordd o fyw a derbyn maddeuant.”

13A dywedodd wrthyn nhw, “Ydych chi ddim yn deall y ddameg hon? Sut medrwch chi ddeall unrhyw ddameg?

14Yr heuwr sydd yn hau’r gair.

15Y rhai ar y ffordd lle’r heuir y gair yw’r rhai sydd yn clywed, ac yn union wedyn daw Satan a chipio ymaith y gair a heuwyd ynddyn nhw.

16Yr un modd, y rhai ar y tir creigiog yw’r rhai sydd yn derbyn y gair yn llawen cyn gynted ag y clywan nhw ef.

17Nid oes ganddyn nhw wreiddyn ynddyn nhw eu hunain, a thros dro maen nhw’n dal ati, ac yna, pan ddêl amser caled neu erledigaeth o achos y gair, maen nhw’n syrthio ymaith ar fyr dro.

18Y rhai eraill yw’r rhai sy’n cael eu hau ymhlith y drain. Y mae’r rhain yn clywed y gair,

19ond y mae gofalon bywyd a swyn hudolus cyfoeth a blys am bethau eraill yn dod i mewn a thagu’r gair, ac ni rydd ffrwyth.

20A’r rhai a heuwyd ar y tir da yw’r rhai sydd yn clywed y gair ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, un drigain, ac un gant.”

Defnydd gorau o’r cyfle

21Ac meddai wrthyn nhw, “Oes rhywun yn mofyn lamp i’w dodi o dan y celwrn blawd neu’r gwely ac nid ar y stand?

22Felly ni chuddir dim os nad oes bwriad i’w ddatguddio, ac ni chedwir dim yn ddirgel os nad oes bwriad i’w ddadlennu.

23Os oes gennych glustiau, gwrandewch.”

24Ac meddai wrthyn nhw, “Sylwch ar beth rydych yn ei glywed. Fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain, a chewch rywfaint dros ben hefyd.

25Caiff y dyn sydd â pheth ganddo’n barod fwy, ond am yr hwn sydd heb ddim fe ddygir oddi arno hyd yn oed yr hyn sydd ganddo.”

Gwersi natur

26A dywedodd, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw. Meddyliwch am ddyn yn bwrw had i’r ddaear.

27Mae’n cysgu’r nos a chodi’r bore, a bydd yr had yn egino a thyfu — sut? Dyw ef ddim yn gwybod.

28Mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth ohoni ei hun. Yn gyntaf wele’r eginyn: yna’r dywysen, ac yna’r grawn yn llanw’r dywysen.

29Ond cyn gynted ag yr aeddfeda’r cnwd y mae’r dyn yn mynd ati â chryman am fod amser cynhaeaf wedi dod.”

30Dywedodd ymhellach, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, neu sut ddarlun a rown ohoni?

31Y mae fel hedyn mwstard sy’n llai bryd hau nag unrhyw hedyn yn y ddaear,

32ond wedi ei fwrw i’r pridd fe dyf yn gryf a mynd yn dalach na phob planhigyn arall, gan ledu canghennau mor fawr fel y gall adar lechu yn ei gysgod.”

33Â llawer dameg debyg i’r rhain y cyflwynai ei neges iddyn nhw yn ôl eu dawn i wrando.

34Ni lefarai wrthyn nhw ond mewn damhegion, ond esboniai’r cwbl i’w ddisgyblion pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain.

Gostegu’r Storm

35Yn hwyr y diwrnod hwnnw dywedodd wrthyn nhw, “Gadewch i ni groesi i’r ochr draw.”

36Felly, dyma adael y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch lle bu’n eistedd. Roedd cychod eraill hefyd yn y cwmni.

37Cododd gwynt enbyd, a dyma’r tonnau yn arllwys i’r cwch nes iddo lenwi â dŵr.

38Ar y pryd roedd yr Iesu’n cysgu ar glustog yn y pen ôl i’r cwch. Dihunodd y disgyblion ef a dweud wrtho, “Feistr, wyt ti ddim yn hidio ein bod ar foddi?”

39Ac fe ddeffrodd a cheryddu’r gwynt a dweud wrth y môr, “Ust! Bydd dawel!”

Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.

40Ac meddai wrthyn nhw, “Pam rydych chi mor ofnus? Onid oes ffydd gyda chi eto?”

41Roedden nhw wedi cael braw mawr, a medden nhw wrth ei gilydd, “Pwy, felly, yw hwn gan fod y gwynt hyd yn oed, a’r môr, yn ufuddhau iddo?”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help