1Ymgasglodd Phariseaid a rhai o athrawon y Gyfraith a oedd wedi dod o Jerwsalem ato.
2Roedden nhw wedi sylwi bod rhai o’i ddisgyblion yn bwyta’u bara â dwylo halogedig, hynny yw, dwylo heb eu golchi.
3(Nid yw’r Phariseaid na neb o’r Iddewon yn bwyta dim heb olchi eu dwylo yn y dull priodol, gan lynu wrth draddodiad yr hynafiaid.
4Ac ar ôl bod yn y farchnad dydyn nhw ddim yn bwyta heb ymolchi’n gyntaf; a pherthyn llu o bethau eraill i’r traddodiad y bu iddyn nhw ei dderbyn, megis golchi cwpanau ac ystenau a llestri pres.)
5A gofynnodd y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith iddo, “Pam y mae dy ddisgyblion di ym mynd at y bwrdd â dwylo halogedig yn lle dilyn traddodiad yr hynafiaid?”
6Atebodd yntau, “Proffwydodd Eseia’n gywir amdanoch chi, ragrithwyr, fel y mae wedi ei ysgrifennu,
‘Mae’r bobl hyn yn f’anrhydeddu â’u gwefusau,
Ond mae’u calon ymhell oddi wrthyf.
7Ofer iddyn nhw f’addoli,
Gan ddysgu fel athrawiaeth orchmynion dynion.’
8Gadael yr ydych orchymyn Duw a glynu wrth draddodiad dynion.
9“Ie,” meddai wrthyn nhw, “dyna ffordd hwylus sy gennych o daflu gorchymyn Duw o’r neilltu er mwyn cadw at eich traddodiad eich hunain.
10Oherwydd dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a’th fam,’ a ‘Bydded farw’n gelain y sawl a felltithio dad neu fam.’
11Ond fe ddywedwch chi, os bydd gan ddyn rywbeth y gallai ei ddefnyddio i helpu ei dad neu’i fam ond iddo ddweud, ‘Corban yw’ (hynny yw, ‘Rhodd i Dduw’),
12rydych yn ei warafun rhag gwneud dim dros ei dad neu’i fam,
13ac fe wnewch air Duw yn ddirym drwy’r traddodiad rydych yn ei drosglwyddo. A gwnewch lawer o bethau eraill tebyg i hyn.”
Craidd budreddi14Wedi iddo alw’r dyrfa ato eto dywedodd yr Iesu wrthyn nhw, “Gwrandewch arnaf bawb, a deëllwch hyn:
15ni all dim sy’n mynd i mewn i ddyn o’r tu allan ei wneud yn aflan. Y pethau sy’n ei wneud yn aflan yw’r pethau sy’n dod allan ohono.”
17Yna, pan aeth i’r tŷ oddi wrth y dyrfa, holodd y disgyblion ef am y ddameg.
18Meddai wrthyn nhw, “Ai rhai di-ddeall, felly, rydych chithau hefyd? Oni welwch na fedr dim sy’n mynd i mewn i ddyn o’r tu allan ei wneud yn aflan
19gan nad i’r galon y mae’n mynd ond i’r cylla, ac yna allan i’r geuffos?”
Fe gyhoeddodd felly fod pob bwyd yn lân.
20Ac aeth ymlaen a dweud, “Y peth a ddaw allan o ddyn, hwnnw sy’n ei wneud yn aflan.
21Oherwydd o’r tu mewn, o galon dyn y daw bwriadau drwg, llygriadau rhyw, lladradau, llofruddio,
22godinebu, trachwant, malais, twyll, anlladrwydd, cenfigen, pardduo cymeriad, balchter ac ynfydrwydd.
23O’r tu mewn y daw’r holl ddrygau hyn, a’r rheiny sy’n gwneud dyn yn aflan.”
Ffydd mam24A chododd oddi yno a mynd i gyffiniau Tyrus. Aeth i mewn i dŷ, ac nid oedd am i neb wybod ei fod yno, ond roedd hyn yn amhosibl.
25Bron ar unwaith clywodd rhyw wraig, roedd gan ei merch fach ysbryd aflan, amdano, ac fe ddaeth a syrthio wrth ei draed.
26Groeges oedd y wraig, o genedl y Syroffeniciaid. Gofynnodd iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch.
27Dywedodd yntau wrthi, “Gad i’r plant gael bwyd yn gyntaf; nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.”
Atebodd hithau’n ôl,
28“Syr, y mae hyd yn oed y cŵn dan y ford yn bwyta o friwsion y plant.”
29Ac meddai’r Iesu wrthi, “Am i ti ddweud hyn dos adref. Aeth y cythraul allan o’th ferch.”
30Ac aeth hithau adref a chael y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a’r cythraul wedi ei gadael.
Gwella’r mud a’r byddar31Yna, wrth ddod nôl o gyffiniau Tyrus, daeth drwy Sidon hyd fôr Galilea, drwy gyffiniau’r Deg Tref.
32Ac fe ddaethon nhw â dyn byddar ac atal dweud arno ato, ac erfyn yn daer arno ddodi ei law arno.
33Wedi mynd ag ef ar wahân oddi wrth y dyrfa dododd ei fysedd yng nghlustiau’r dyn a phoeri a chyffwrdd â’i dafod.
34Yna, gan edrych i fyny tua’r nef ac ochneidio’n ddwys, dywedodd wrtho, “Ephphatha,” hynny yw, “Agorer di.”
35Ac agorwyd ei glustiau ar unwaith a symudwyd y nam ar ei barabl a dechreuodd siarad yn glir.
36Rhybuddiodd yr Iesu nhw i beidio â dweud dim wrth neb, ond po fwyaf y rhybuddiai nhw mwyaf oll roedden nhw’n cyhoeddi’r hanes.
37A chyda syndod mawr dros ben medden nhw, “Mor ardderchog yw ei weithredoedd oll. Y mae’n gwneud hyd yn oed i’r byddariaid glywed ac i fudion siarad.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.