Luc 15 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Dameg y ddafad a gollwyd

1Roedd y casglwyr trethi a’r troseddwyr ym mhobman yn gwthio ato i glywed beth oedd ganddo i’w ddweud.

2Yn y man, aeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith i gwyno, “Y mae hwn yn croesawu troseddwyr, ac yn bwyta wrth yr un bwrdd â nhw!”

3Ac adroddodd yr Iesu wrthyn nhw y ddameg hon:

4“Petai gan un ohonoch gant o ddefaid, a bod un yn mynd ar goll, onid gadael naw deg naw yn y lle anial a wnâi, a mynd i chwilio’n ddyfal am yr un a gollwyd nes dod o hyd iddi?

5Ac wedi dod o hyd iddi, ei chodi ar ei ysgwyddau yn llawen?

6Yna, wedi dychwelyd adref, galw ei gyfeillion a’i gymdogion at ei gilydd, gan ddweud, ‘Dewch i ddathlu, canys cefais fy nafad oedd ar goll!’

7Coeliwch fi’n dweud wrthych mai felly y mae yn y nefoedd hefyd — mwy o lawenhau am un pechadur a newidiodd ei ffordd o fyw nag am y naw deg naw o bobl barchus, nad oes raid iddyn nhw newid eu ffordd o fyw.

Dameg y darn arian colledig

8“Neu dywedwch fod gwraig a deg darn o arian ganddi, ond ei bod hi’n colli un darn. Onid yw’n goleuo’r gannwyll ac ysgubo pob modfedd o’r tŷ, a chwilio’n ofalus nes dod o hyd iddo?

9Ac wedi ei gael, y mae hithau’n galw ati ei ffrindiau, a’i chymdogion, gan ddweud, ‘Dewch i ddathlu gyda mi: oherwydd fe gefais y darn arian a gollais i!’

10Dyna’r math o lawenydd sydd ymhlith angylion Duw pan fydd un pechadur yn newid ei ffordd o fyw.”

Dameg y Mab Afradlon

11Yna dywedodd ef: “Un tro roedd gŵr a chanddo ddau fab.

12Meddai’r ieuengaf wrth ei dad, ‘Fy Nhad, gad imi gael fy rhan o’r eiddo yn awr.’ Ac felly y bu; fe rannodd y tad ei eiddo rhyngddyn nhw.

13Cyn bo hir, casglodd y mab ieuengaf bopeth at ei gilydd, a ffwrdd ag ef i wlad bell. Yno, gwastraffodd ei arian gan fyw yn ofer.

14Wedi iddo wario’r cyfan, daeth yn newyn enbyd yn y wlad honno, a dechreuodd fynd yn gyfyng arno.

15Aeth i ddibynnu ar un o ddinaswyr y wlad honno, ac anfonodd hwnnw ef i’r caeau i borthi’r moch.

16Aeth mor ddrwg arno, fel y dyheai hyd yn oed am fwyta’r bwyd moch, a neb o gwbl yn trugarhau wrtho.

17Pan ddaeth i’w synnwyr, dechreuodd ymresymu — ‘Dyna weision fy nhad â mwy o fwyd o’u blaen nag y medran nhw ddod i ben ag ef, a minnau’n llwgu i farwolaeth fan hyn!

18Fe godaf a mynd at fy Nhad, a dweud wrtho, “Nhad, rydw i wedi troseddu yn erbyn Duw a thithau,

19ac nid wy’n haeddu cael fy ngalw yn fab iti; gaf fi ddod yn ôl fel un o’th weision?”’

20A dyna ef yn codi a mynd at ei dad. A phan oedd bellter o’r tŷ, fe’i gwelodd ei dad ef, ac o dosturi mawr rhedodd i’w gyfarfod, gan daflu’i freichiau amdano a’i gusanu.

21‘Nhad,’ meddai’r mab, ‘troseddais yn erbyn Duw a thithau, ac nid wy’n haeddu cael fy ngalw yn fab iti…’

22Ond dweud a wnaeth y tad wrth ei weision, ‘Dewch â’r dillad newydd ar unwaith, a gwisgwch amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys, a sandalau am ei draed,

23a lleddwch y llo sydd wedi’i besgi Rhaid inni gael gwledd i ddathlu!

24Daeth fy mab marw yn fyw eilwaith! Mae’r bachgen a gollwyd ar gael!’ A dyna fynd ati i ddathlu.

25“Ond roedd ei fab hynaf allan yn y cae, ac fel y dynesai at y tŷ, clywai sŵn canu a dawnsio.

26Galwodd un o’r gweision a holi beth oedd yn bod.

27Atebodd yntau, ‘Daeth dy frawd yn ôl, ac fe laddodd dy dad y llo oedd wedi’i besgi am iddo ddod yn ôl yn ddiogel.’

28Digiodd yntau, a gwrthod mynd i mewn. Felly daeth ei dad allan i erfyn arno ddod.

29Meddai yntau wrth ei dad, ‘Edrych faint o amser y bûm i’n slafio i ti, heb fod yn anufudd iti erioed. A fu dim sôn am roi hyd yn oed fyn gafr i mi i gael gwledd gyda ’nghyfeillion!

30Ond y munud y daeth hwn, dy fab, yn ôl, wedi rhedeg drwy dy arian gyda phuteiniaid, dyna ti’n lladd y llo tewaf iddo!’

31‘Fy mab annwyl,’ meddai’r tad, ‘ni adewaist ti erioed mohonof, a phopeth sydd gennyf, ti a’i piau.

32Ond roedd rhaid dathlu a llawenhau, oherwydd mae dy frawd a dybid yn farw, yn fyw! Wedi bod ar goll, ond wedi’i gael!’ ”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help