1Ar Ddydd Gorffwys, aeth am fwyd i dŷ un o’r Phariseaid amlycaf, ac roedd pawb yn craffu arno.
2O’i flaen roedd gŵr yn dioddef o’r dropsi.
3Arweiniodd hyn yr Iesu i holi athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid, “A yw’n iawn imi iacháu ar y Dydd Gorffwys ai peidio?”
4Ond ni chafwyd ateb. A chymerodd y dyn a’i iacháu, ac yna ei anfon ymaith.
5A chan droi atyn nhwythau, gofynnodd, “Pan fydd asyn neu ych rhywun ohonoch yn syrthio i ffynnon ar y dydd hwn, onid ei dynnu allan y byddwch, Dydd Gorffwys neu beidio?”
6Ond doedd ganddyn nhw ddim ateb i hyn.
Gwers mewn gwyleidd-dra7Sylwodd fel roedd y rhai a wahoddwyd yn anelu am y seddau gorau, a dywedodd ddameg wrthyn nhw,
8“Pan wahoddir chi gan rywun i wledd briodas, gofelwch beidio ag eistedd yn y lle gorau, rhag ofn bod rhywun enwocach na chi wedi ei wahodd,
9ac i’r hwn a’ch gwahoddodd chi ac yntau ddod a dweud wrthych, ‘Ef sydd i fod yn y sedd yna.’ Fe fyddwch yn cywilyddio wrth orfod symud i’r gwaelod.
10Na, pan wahoddir chi, eisteddwch yn y sedd olaf, fel pan ddaw yr hwn a’ch gwahoddodd, y gall ef ddweud, ‘Gyfaill hoff, symud i fyny.’ Daw hyn ag anrhydedd i chi yng ngolwg pawb o’ch cyd-wahoddedigion.
11Oherwydd caiff pob un a’i dyrchafo’i hun ei ostwng, a’r sawl a’i gostyngo ei hun ei ddyrchafu.”
12Dywedodd hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi’n trefnu cinio neu swper mawr, paid â gwahodd dy ffrindiau neu dy frodyr, neu ryw deulu neu gymdogion ariannog, rhag iddyn nhw dalu iti drwy dy wahodd yn ôl.
13Gwell o lawer yw gwahodd y tlodion, yr anafus, y cloffion a’r deillion, pan fyddi di’n rhoi parti.
14Byddi’n fwy dedwydd o’r hanner, am na allan nhw dy dalu di’n ôl. Telir yn ôl i ti yn yr Atgyfodiad, gyda’r dynion da.”
Dameg y Swper Mawr15Wedi gwrando hyn i gyd, meddai un o’r gwahoddedigion wrtho, “Dedwydd yw y sawl a gaiff wledda yn nheyrnas Dduw!”
16Atebodd yr Iesu, “Un tro, trefnodd rhyw ddyn swper mawr, a gwahodd llaweroedd yno.
17A phan ddaeth yn amser, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai a wahoddwyd, ‘Dewch, mae popeth yn barod.’
18Ond yn ddi-eithriad, dyma nhw’n dechrau ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf, ‘Prynais gae, a rhaid imi fynd i gael golwg arno. Esgusoda fi, os gweli’n dda.’
19Meddai’r ail, ‘Prynais bum pâr o ychen, a rhaid imi eu gweld yn gweithio. Esgusoda fi, os gweli’n dda.’
20A rheswm y trydydd oedd, ‘Rydw i newydd briodi, ac felly mae’n amhosibl i mi ddod.’
21Daeth y gwas yn ôl â’r negeseuau at ei feistr. Digiodd yntau wrthyn nhw, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos ar d’union ar hyd y strydoedd a ffyrdd y ddinas, a hel i mewn yma y tlodion, a’r anafus a’r deillion a’r cloffion.’
22Dywedodd y gwas wrtho, ‘Arglwydd, gwnes fel y dywedaist. Ac mae digon o le ar ôl o hyd.’
23Ac meddai’i feistr, ‘Dos, ynteu, a galw nhw o’r priffyrdd a’r caeau a gorfoda nhw i ddod i mewn, imi gael y tŷ yn llawn.
24Oherwydd mae un peth yn sicr, na chaiff yr un o’r rhai a wahoddwyd gyntaf brofi fy ngwledd.’”
Y gost o fod yn ddisgybl25Dilynid yr Iesu gan dorfeydd mawr. Trodd atyn nhw a dweud,
26“Os daw rhywun ataf, ac yntau heb fod yn barod i gasáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant neu ei frodyr a’i chwiorydd, a’i fywyd ei hun hyd yn oed, ni all fod yn ddisgybl i mi.
27Y sawl nid yw yn fodlon dwyn ei groes a’m dilyn i, ni all fod yn ddisgybl i mi.
28“A bod gennych awydd codi tŵr, onid ydych yn eistedd yng nghyntaf peth a gweithio allan y gost, i edrych a oes gobaith ei orffen?
29Rhag ofn ichi, wedi gorfod ei roddi heibio ar ôl gosod y sylfeini, fynd yn gyff gwawd i bawb,
30ac iddyn nhw ddweud, ‘Dyma’r dyn ddechreuodd adeiladu tŵr, a methu gorffen y gwaith!’
31“Neu pa frenin a feddyliai am wynebu un arall mewn rhyfel heb ystyried yn ofalus a yw’n bosibl iddo ef, a deng mil o filwyr, wrthwynebu ei elyn y mae ganddo ugain mil?
32Ac os nad yw’n bosibl, fe enfyn neges i geisio cymodi, cyn bod y fyddin arall o fewn cyrraedd.
33Felly yn eich hanes chithau, ni all neb ohonoch fod yn ddisgyblion i mi heb ildio popeth sydd yn eich meddiant.
34“Peth da yw halen, ond os cyll yr halen ei hun ei flas, pa fodd mae ei adfer?
35Nid yw dda i ddim, nac i’r tir na’r domen — dim ond i’w daflu allan. Os oes clustiau gennych i wrando, gwrandewch.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.