1Wedi mynd oddi yno daeth i ardaloedd Jwdea, ac i’r ochr draw i’r Iorddonen. Unwaith eto ymgasglodd ato lu o bobl, ac yn ôl ei arfer aeth yntau ’mlaen i’w dysgu.
2Er mwyn ei brofi daeth Phariseaid ato a gofyn y cwestiwn, “Ydy hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru’i wraig?”
3Atebodd yntau drwy ofyn, “Beth oedd gorchymyn Moses i chi?”
4“Rhoes Moses ganiatâd,” medden nhw wrtho, “i ddyn drwy ysgrifennu llythyr ysgariad anfon ei wraig ymaith.”
5Dywedodd yr Iesu, “Oherwydd eich bod mor anodd i’ch dysgu y rhoes Moses y gorchymyn hwnnw i chi.
6Ond o’r cychwyn cyntaf pan greodd Duw y byd, yn wryw ac yn fenyw y creodd efe nhw.
7Am hynny y mae dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac uno â’i wraig,
8a bydd y ddau yn un cnawd. Felly nid dau berson ar wahân ydyn nhw mwyach ond un cnawd.
9Am hynny, y peth a gysylltodd Duw ynghyd, na wahaned dyn.”
10A phan oedden nhw nôl yn y tŷ dechreuodd y disgyblion ei holi am y pwnc.
11Dywedodd yntau wrthyn nhw, “Y mae’r dyn sy’n mynnu ysgariad oddi wrth ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu yn ei herbyn.
12A’r un modd, os yw’r wraig yn ysgaru ei gŵr a phriodi dyn arall y mae hithau’n godinebu.”
Croeso i blant13Ac fe ddaethon nhw â phlant ato er mwyn iddo roi ei law arnyn nhw, ond fe geryddodd y disgyblion nhw.
14Wrth weld hyn digiodd yr Iesu a dywedodd wrthyn nhw, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi, a pheidiwch â’u rhwystro. Rhai fel hyn biau teyrnas Dduw.
15Yn wir y dywedaf wrthych, pwy bynnag nad yw’n derbyn teyrnasiad Duw fel plentyn ni chaiff fynd i mewn iddi.”
16Ac yna rhoes ei freichiau am y plant a dodi ei ddwylo arnyn nhw a’u bendithio.
Cyfoeth yn dramgwydd17Pan oedd yn ail-gychwyn ar ei daith rhedodd rhyw un ato a phenlinio o’i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth sydd raid i mi ei wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?”
18Dywedodd yr Iesu wrtho, “Paham rwyt yn fy ngalw i yn ‘dda’? Duw’n unig sydd dda.
19Rwyt yn gwybod y gorchmynion: na ladd, na odineba, na ladrata, na ddwg gam-dystiolaeth, na thwylla, parcha dy dad a’th fam.”
20“Athro,” meddai’r dyn wrtho, “cedwais y rhai hyn i gyd er pan oeddwn ifanc iawn.”
21Edrychodd yr Iesu arno, ac fe’i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Mewn un peth rwyt yn colli. Dos, gwerth y cyfan sydd gennyt a rho’r arian i’r tlodion, a chei dithau drysor yn y nef. Yna tyrd a dilyn fi.”
22Wedi clywed hyn newidiodd ei wedd a throes i ffwrdd yn siomedig oherwydd roedd yn ŵr a chanddo gyfoeth mawr.
23Wedi edrych o amgylch dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i’r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!”
24Rhyfeddai ei ddisgyblion at ei eiriau, ond eu hail-adrodd a wnaeth yr Iesu a dweud wrthyn nhw, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
25Y mae’n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
26Gan ryfeddu’n fwy fyth fe ddywedson wrth ei gilydd, “Pwy felly a all gael ei achub?”
27Edrychodd yr Iesu arnyn nhw a dywedodd, “I ddynion y mae’r peth yn amhosibl, ond nid i Dduw. I Dduw y mae popeth yn bosibl.”
28Ar hyn dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael popeth er mwyn dy ddilyn di.”
29Atebodd yr Iesu, “Meddaf finnau wrthych, does neb a adawodd gartref neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn yr Efengyl,
30na chaiff dderbyn yn y byd hwn ganwaith cymaint — cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant a thiroedd, gydag erlidiau hefyd, ac yn yr oes sy’n dod fywyd tragwyddol.
31Ond bydd llawer o’r rhai cyntaf yn olaf, a’r olaf yn flaenaf.”
Rhybudd arall eto32Pan oedden nhw ar y ffordd i fyny i Jerwsalem, a’r Iesu’n cerdded o’u blaenau, roedden nhw wedi rhyfeddu, a phryderai y rhai oedd yn canlyn hefyd. Ac aeth yntau a’r deuddeg o’r neilltu unwaith eto, a dechrau dweud wrthyn nhw beth a fyddai’n digwydd iddo.
33“Rydym ni’n mynd i fyny i Jerwsalem,” meddai, “ac fe roir Mab y Dyn yn nwylo’r prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith. Fe’i condemnian nhw ef i farwolaeth a’i draddodi i ddwylo estroniaid.
34Fe’i gwawdir ac fe boerir arno. Fe gaiff ei chwipio ac fe’i lleddir. Ac ymhen tri diwrnod fe gwyd eto.”
Gofyn am ffafr35A daeth Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus ato a dweud wrtho, “Hoffem iti wneud un peth i ni, Feistr.”
36Gofynnodd iddyn nhw, “Beth a ddymunwch imi ei wneud i chi?”
37Eu hateb oedd, “Rho inni’r hawl i eistedd gyda thi yn dy ogoniant, y naill ar dy law dde a’r llall ar dy law chwith.”
38Dywedodd yntau, “Does gyda chi ddim syniad beth rydych chi’n ei ofyn. A ellwch yfed o’r cwpan rydw i’n mynd i yfed ohono, neu gael eich bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi ag ef?”
39“Gallwn,” medden.
Ac ebe’r Iesu, “Fe gewch yfed o’r un cwpan â mi, ac fe gewch eich bedyddio â’r un bedydd â mi,
40ond am gael eistedd ar fy llaw dde neu fy llaw chwith, nid fi sydd i roi hynny. Fe fydd hynny i’r sawl y trefnwyd ar eu cyfer.”
41Pan glywodd y deg fe aethon nhw yn ddig wrth Iago ac Ioan.
42A galwodd yr Iesu nhw ato a dweud, “Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnyn nhw; a bod eu gwŷr mawr yn awdurdodi arnyn nhw.
43Nid felly y mae yn eich plith chi. Rhaid i’r sawl sy am fod yn fawr yn eich plith chi fod yn was,
44a rhaid i’r neb a fyn fod yn flaenaf fod yn gaethwas pawb.
45Oherwydd nid i dderbyn gwasanaeth y daeth Mab y Dyn ond i roi gwasanaeth, ac i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer.”
Cardotyn dall46Yna fe ddaethon nhw i Jericho, a phan oedd yn ymadael â’r dref gyda’i ddisgyblion a thyrfa fawr, pwy oedd yn eistedd ar ochr y ffordd ond cardotyn dall o’r enw Bartimeus, mab Timeus.
47Wedi clywed mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Fab Dafydd, Iesu, tosturia wrthyf.”
48A cheryddodd llawer ef, a cheisio ganddo fod yn dawel, ond gweiddi’n uwch a wnaeth, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
49Safodd yr Iesu a dweud, “Gelwch arno.”
A galwodd rhywrai ar y dall gan ddweud wrtho, “Cod dy galon. Saf ar dy draed. Y mae’n galw arnat.”
50Ar hyn taflodd ei fantell o’r neilltu gan neidio ar ei draed a dod at yr Iesu.
51“Beth wyt ti am i mi ei wneud i ti?” gofynnodd yr Iesu.
“O Feistr,” atebodd y dall, “cael fy ngolwg yn ôl.”
52A dywedodd yr Iesu, “Dos ar dy ffordd. Y mae dy ffydd wedi dy wella.”
A chyda’r gair daeth ei olwg yn ôl a dilynodd yntau’r Iesu ar y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.