Luc 1 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Rhagymadrodd

1Annwyl Theophilus,

Gan fod cynifer wedi ceisio adrodd yn drefnus hanes y pethau a ddigwyddodd yn ein plith,

2fel y derbyniwyd nhw oddi wrth lygad-dystion ohonyn nhw oedd yn byw i’r gair,

3penderfynais innau, wedi eu hystyried yn fanwl o’r dechrau, eu hanfon atat yr un mor drefnus,

4iti gael yr union wir am y pethau a ddysgaist.

Sôn am eni Ioan

5Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, roedd offeiriad o’r enw Sachareias, o adran offeiriadol Abeia. Roedd ei wraig, Elisabeth, o linach Aaron.

6Dau dduwiol gerbron Duw, yn ufuddhau’n drylwyr i holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd.

7Ond nid oedd plentyn ganddyn nhw, na gobaith gan Elisabeth o ddod yn fam. Roedd y ddau yn tynnu ’mlaen.

8A rhyw ddiwrnod, pan oedd Sachareias wrth ei waith fel offeiriad (tro ei adran ef oedd hi),

9daeth galw arno, yn ôl yr offeiriadaeth, i ofalu am yr arogldarthu yn y cysegr.

10Gan mai awr yr arogl-darthiad oedd hi, roedd yr holl gynulleidfa yn gweddïo tu allan.

11A phwy ddaeth ato, gan sefyll yr ochr dde i’r allor, ond un o angylion yr Arglwydd.

12Aeth ias drwy Sachareias, a chafodd ofn.

13Ond meddai’r angel wrtho, “Paid â dychryn, Sachareias; gwrandawyd dy weddi: bydd Elisabeth dy wraig yn rhoi mab iti, a byddi yn ei alw’n Ioan.

14Daw â llawenydd mawr iti, a bydd ei eni’n achos gorfoledd i lawer.

15Oherwydd fe fydd yn fawr yng ngolwg Duw, a rhaid iddo beidio â chyffwrdd â gwin na diod gadarn byth; ac fe fydd yn llawn o’r Ysbryd Glân o’i enedigaeth.

16Bydd yn foddion troi llawer o’r Israeliaid yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.

17Fe â allan o’i flaen ef, yn llawn o ysbryd a gallu Eleias, i uno tadau a phlant, i adfer yr anufudd i ddoethineb dynion da, a pharatoi pobl fydd yn gymwys i’w Harglwydd.”

18Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut rydw i’n mynd i wybod hyn? Rwy’n hen, ac nid merch ifanc yw fy ngwraig chwaith.”

19Ateb yr angel oedd, “Myfi yw Gabriel. Rydw i’n sefyll ym mhresenoldeb Duw, ac fe’m hanfonwyd yn un swydd i fynegi iti y newyddion da hyn.

20Ond clyw, fe fyddi’n fud heb allu dweud gair hyd y dydd y daw’r pethau hyn i ben, am iti wrthod credu yr hyn a ddywedais, ond daw’r cyfan yn wir yn eu hamser priodol.”

21Yn y cyfamser, methai’r bobl a arhosai am Sachareias â deall paham roedd i mewn mor hir.

22Pan ddaeth allan, ni allai siarad â nhw, ac fe ddeallwyd iddo gael gweledigaeth yn y cysegr. Dyna lle roedd yn gwneud arwyddion, ond heb allu dweud gair.

23Ymhen amser, pan ddaeth tymor ei wasanaeth i ben, aeth Sachareias yn ôl adref.

24Ac yn fuan wedyn, roedd Elisabeth ei wraig yn disgwyl plentyn, ac am bum mis bu fyw o’r golwg, gan ddweud,

25“Yr Arglwydd a wnaeth hyn i mi, i symud ymaith y cywilydd a ddioddefais yng ngŵydd dynion.”

Sôn am eni Iesu Grist

26Yn y chweched mis, anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i Nasareth, tref yng Ngalilea,

27at ferch ifanc a oedd wedi ei dyweddïo â dyn o’r enw Joseff, un o ddisgynyddion Dafydd, ac enw’r ferch oedd Mair.

28Aeth yr angel ati, gan ddweud, “Cyfarchion iti, tydi yr hon a gafodd ffafr. Mae’r Arglwydd gyda thi.”

29Ond roedd hi’n poeni am yr hyn a ddywedodd, ac yn ceisio dyfalu beth oedd ystyr y fath neges.

30Ac ebe’r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair: cefaist ffafr gan Dduw.

31Fe gei di roi genedigaeth i fab, a’i alw wrth yr enw Iesu.

32Bydd mawredd iddo, ac fe’i gelwir yn Fab y Goruchaf. Rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd ei hynafiad Dafydd.

33Fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth: ni fydd diwedd ar ei frenhiniaeth.”

34“Sut y gall hyn fod, a minnau’n ddi-briod?” meddai Mair wrth yr angel.

35Ateb yr angel oedd, “Daw’r Ysbryd Glân arnat ti, a bydd cysgod y Goruchaf drosot; am hynny, fe elwir y plentyn santaidd a enir yn ‘Fab Duw’.

36Mae dy berthynas Elisabeth, hefyd, yn disgwyl plentyn, er cyn hyned yw, ac y mae hi, a ystyrid yn amhlantadwy, bellach ar ei chweched mis.

37Oherwydd mae pob peth yn bosibl gyda Duw.”

38Ac meddai Mair, “Rydw i yma i wasanaethu’r Arglwydd. Bydded fel y dywedaist.” Yna fe aeth yr angel i ffwrdd.

Mair yn ymweld ag Elisabeth

39Tua’r adeg yma, fe gychwynnodd Mair ar frys i’r dref ym mynydd-dir Jwda,

40ac aeth i mewn i dŷ Sachareias, a chyfarch Elisabeth.

41Pan glywodd Elisabeth gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn ynddi. Llanwyd Elisabeth â’r Ysbryd Glân,

42a llefodd yn uchel, “Bendithied Duw di yn fwy na’r un ferch erioed, a bendithio dy blentyn hefyd.

43Ond paham y cefais i y fath anrhydedd, — mam fy Arglwydd yn galw i’m gweld?

44Wyddost ti, cyn gynted ag y clywais i dy gyfarchiad, fe lamodd y plentyn ynof gan lawenydd.

45Mor ddedwydd yw hi arnat ti’n credu y daw addewid yr Arglwydd yn wir yn dy hanes.”

Cân Mair

46Ac meddai Mair,

“Mae ’nghalon yn dweud mor fawr yw’r Arglwydd,

47A’m hysbryd yn llonni yn Nuw, fy Ngwaredwr;

48Am iddo sylwi arnaf, ei forwyn ddinod.

Ar ôl hyn, bydd pobl pob oes yn fy ngalw y ferch ddedwyddaf erioed,

49Oherwydd yr hwn sydd â phob gallu ganddo a wnaeth bethau mawr er fy mwyn.

Mae hyd yn oed ei enw’n santaidd;

50Rhydd ei drugaredd ym mhob oes

I’r rhai sydd yn ei ofni ef.

51Datguddiodd nerth ei fraich,

Gan sgubo i ffwrdd y rhai balch eu calon.

52Tynnodd frenhinoedd i lawr o’u gorseddau,

A chododd y rhai isel ar eu traed.

53Cafodd y newynog eu digoni â moethau,

Ac anfonodd y rhai cyfoethog i ffwrdd heb ddim.

54Bu’n gefn i’w was Israel, gan gofio dangos trugaredd

55i Abraham a’i hil, hyd byth, fel yr addawodd i’n tadau.”

56Arhosodd Mair yno tua thri mis, ac yna aeth adref yn ôl.

Geni Ioan Fedyddiwr

57Yn y man, daeth yn amser i blentyn Elisabeth gael ei eni, ac fe gafodd fab.

58Pan glywodd ei chymdogion a’i pherthnasau mor fawr oedd trugaredd yr Arglwydd tuag ati, fe ddaethon nhw i gydrannu ei llawenydd.

59Ar yr wythfed dydd, roedden nhw yn paratoi i enwaedu ar y plentyn: roedden nhw’n bwriadu ei alw’n Sachareias, ar ôl ei dad.

60Ond roedd ei fam yn bendant.

“Na,” meddai, “rhaid ei alw’n Ioan.”

61“Beth?” medden nhw, “Ioan? Does yna neb o’r enw hwnnw yn dy deulu di.”

62Fe ofynson nhw i Sachareias drwy arwyddion beth oedd ef yn ei feddwl.

63Gofynnodd yntau am lechen, ac ysgrifennodd arni, “Ioan yw ei enw.” Ac roedd pawb wedi rhyfeddu.

64Ac ar unwaith, fe ddaeth nerth yn ôl i’w wefusau a’i dafod, a dechreuodd siarad gan ganmol Duw.

65Roedd pawb yn y fro wedi dychryn, a dyna oedd testun siarad yr holl ardaloedd gwledig hynny yn Jwdea.

66Y bobl yn methu rhoi’r peth allan o’u meddwl, ac yn gofyn, “Beth, tybed, fydd dyfodol y bachgen hwn?” Roedd yn amlwg iddyn nhw’n barod fod Duw’n ei fendithio.

Cân Sachareias

67Roedd Sachareias ei dad yn llawn o’r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn,

68“Bendithiwn yr Arglwydd, Duw cenedl Israel;

daeth i gyfarfod â’i bobl a’u rhyddhau.

69Fe gododd inni Waredwr nerthol

o dŷ Dafydd, ei was.

70Cofiwn iddo addo hyn drwy eiriau’r proffwydi santaidd o’r naill oes i’r llall

71— addo ein gwaredu rhag ein gelynion,

ac o ddwylo pawb sy’n ein casáu;

72bod yn drugarog wrth ein tadau, gan gofio ei gyfamod santaidd;

73y llw a dyngodd i’n tad Abraham,

74i’n rhyddhau o ddwylo’n gelynion,

fel y gallem heb ofn, ei wasanaethu

75mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder

holl ddyddiau ein bywyd, ger ei fron.

76Ac fe’th elwir di, fy mhlentyn bach, yn broffwyd i’r Goruchaf,

am y byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd

i baratoi ei ffordd,

77ac yn arwain ei bobl i sylweddoli’r waredigaeth a ddaw iddyn nhw

drwy gael maddeuant o’u pechodau.

78Oherwydd fod ein Duw mor dirion a thrugarog,

fe dyr y wawr arnom o’r uchelder

79i ddisgleirio ar bawb y mae’n dywyll arnyn nhw, a’r rhai sydd yng nghysgod marwolaeth,

ac i dywys ein traed i ffordd heddwch.”

80Fel y tyfodd y plentyn, aeth yn gryf yn yr ysbryd, ac arhosodd yn y tir anial hyd y diwrnod yr ymddangosai yn gyhoeddus i bobl Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help