Marc 16 - The 4 Gospels in Popular Welsh (Y Ffordd Newydd) 1971

Y dydd cyntaf o’r wythnos

1Ac wedi i’r Dydd Gorffwys fynd heibio prynodd Mair o Fagdala a Mair mam Iago a Salome beraroglau, gan feddwl mynd i’w eneinio.

2Felly fe ddaethon nhw at y bedd yn fore iawn wedi codiad haul y dydd cyntaf o’r wythnos.

3Fe ofynnen nhw i’w gilydd, “Pwy a gawn ni i symud y garreg o ddrws y bedd?”

4Ond wedi codi eu golwg fe welson nhw fod y garreg, er cymaint oedd, eisoes wedi ei symud o’r neilltu.

5Wedi mynd i mewn i’r bedd, fe welson nhw ddyn ifanc yn eistedd ar y llaw dde, a gwisg wen amdano, ac fe gawson nhw eu synnu.

6Ond fe ddywedodd wrthyn nhw, “Peidiwch â synnu. Rydych yn chwilio am yr Iesu y Nasaread a gafodd ei groeshoelio. Y mae wedi codi. Dyw ef ddim yma. Edrychwch, dyna’r man lle y rhoeson nhw ef i orwedd.

7Ond ewch i ddweud wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn mynd o’ch blaen i Galilea, a chewch ei weld ef yno fel y dywedodd wrthych’.”

8Yna aethon nhw allan a ffoi oddi wrth y bedd, wedi eu dal gan ddychryn a syndod. Ddywedson nhw ddim un gair wrth neb am fod arnyn nhw ofn.

9Wedi iddo atgyfodi’n fore y dydd cyntaf o’r wythnos fe ymddangosodd yr Iesu yn gyntaf i Fair o Fagdala, y wraig honno roedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.

10Aeth hi â’r newydd i’r rhai a fuasai gydag ef, pan oedden nhw’n drist a galarus.

11Ond er clywed ei fod yn fyw ac iddi hi ei weld, fynnen nhw ddim credu.

12Yn ddiweddarach ymddangosodd ar wedd arall i ddau ohonyn nhw pan oedden nhw yn cerdded i’r wlad.

13Ond fynnai neb gredu’r rheiny chwaith pan ddaethon nhw i ddweud wrth y lleill.

14Wedi hyn ymddangosodd ef i’r un ar ddeg tra roedden nhw wrth fwyd a danododd iddyn nhw eu hanghrediniaeth a’u hystyfnigrwydd am iddyn nhw wrthod credu’r rhai oedd wedi ei weld wedi atgyfodi.

15Yna dywedodd wrthyn nhw, “Ewch i bob rhan o’r byd, a chyhoeddwch y Newyddion Da i bob creadur.

16Fe achubir y rhai sy’n credu ac a gaiff eu bedyddio, ond fe gondemnir y rhai na chredan nhw ddim.

17Ac am y rhai sy’n credu, fe wnân nhw y gwyrthiau hyn — bwrw allan gythreuliaid yn f’enw i, a llefaru mewn ieithoedd dieithr;

18ddaw dim niwed iddyn nhw o afael mewn seirff neu yfed gwenwyn marwol; a phan ddodan nhw eu dwylo ar gleifion bydd y rheiny’n cael iachâd.”

19Wedi iddo lefaru wrthyn nhw fel hyn, fe gymerwyd yr Arglwydd Iesu i fyny i’r nef, ac eisteddodd ar law dde Duw.

20Fe aethon nhwythau allan a phregethu ymhob man, â’r Arglwydd yn cydweithio â nhw ac yn profi gwirionedd eu pregethu drwy’r gwyrthiau a ddilynai.

Hen ddiwedd arall

9Fe ddaethon nhw â’r holl gyfarwyddiadau hyn yn gryno i Bedr a’i gyfeillion. Yna fe anfonodd yr Iesu ei hun y neges santaidd na ddiflanna o waredigaeth dragwyddol drwyddyn nhw o’r dwyrain i’r gorllewin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help