1“Fi yw’r wir Winwydden; fy Nhad yw’r gwinllannwr.
2Mae ef yn torri pob cangen ddiffrwyth arnaf i ffwrdd, ond yn tocio pob cangen ffrwythlon yn lân, er mwyn iddyn nhw gynhyrchu mwy o ffrwyth.
3Rydych chi’n lân eisoes drwy’r gair rwyf wedi’i lefaru wrthych.
4Arhoswch ynof fi i minnau aros ynoch chi. Os nad arhoswch chi ynof fi, fedrwch chi ddim ffrwytho ddim mwy nag y gall y gangen ffrwytho os nad yw hi yn aros yn y winwydden.
5“Fi yw’r Winwydden: chi yw’r canghennau. Mae pwy bynnag sy’n aros ynof fi a minnau ynddo yntau, yn ffrwytho’n drwm — oherwydd ar wahân i fi ellwch chi wneud dim.
6Os na fydd dyn yn aros ynof fi fe gaiff ei daflu i ffwrdd fel cangen ac fe wywa. Mae’r canghennau crin yn cael eu casglu at ei gilydd, eu taflu ar y tân, a’u llosgi.
7“Os arhoswch ynof fi, a’m geiriau i yn aros ynoch chi, gofynnwch am beth a fynnoch, ac fe’i cewch.
8Dyma sut y gellir dangos gogoniant fy Nhad, trwy i chi ffrwytho’n helaeth a bod yn ddisgyblion i mi.
9Rwyf i wedi eich caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i; rhaid i chi ddal i aros yn fy nghariad.
10Os gwnewch chi ufuddhau i’m gorchmynion, fe arhoswch yn fy nghariad, fel y gwnes i ufuddhau i orchmynion fy Nhad, ac aros yr wyf yn ei gariad.
11“Rwyf wedi dweud hyn wrthych chi, i chi gael ynoch fy llawenydd i, ac i’ch llawenydd fod yn gyflawn.
12Dyma fy ngorchymyn i chi: cerwch eich gilydd, yn union fel rwyf fi wedi eich caru chi.
13Y cariad mwyaf y medr dyn ei ddangos tuag at ei ffrindiau yw rhoi ei fywyd drostyn nhw.
14Rydych chi’n gyfeillion i mi, os gwnewch chi ufuddhau i’m gorchmynion.
15Wnaf i mo’ch galw chi’n weision mwyach oherwydd dyw’r gwas ddim yn gwybod beth mae ei feistr yn ei wneud. Fe’ch gelwais chi’n gyfeillion, oherwydd rwyf wedi rhoi gwybod i chi am bopeth a glywais gan fy Nhad.
16Nid chi sydd wedi fy newis i, ond fi a’ch dewisodd chi, ac fe’ch penodais chi i fynd i ddwyn ffrwyth — ffrwyth yn dal yn ei flas — fel y bydd y Tad yn rhoi i chi unrhyw beth a ofynnwch yn f’enw i.
17Dyma fy ngorchymyn i chi: ‘Cerwch eich gilydd’.”
Casineb y byd18Os bydd i’r byd eich casáu chi, cofiwch ei fod wedi fy nghasáu i o’ch blaen chi.
19Pe baech chi’n perthyn iddo byddai’r byd yn eich caru; ond fe’ch dewisais i chi allan o’r byd, a dydych chi ddim yn perthyn iddo, dyna pam y mae’n eich casáu chi.
20Cofiwch beth a ddywedais i wrthych chi, ‘Dyw’r gwas ddim yn fwy na’i feistr.’ Fel y buon nhw yn f’erlid i, felly y byddan nhw yn eich erlid chi, neu os buon nhw yn cadw fy ngeiriau i, mi fyddan yn cadw’ch geiriau chithau hefyd.
21Ond o’m hachos i y byddan nhw yn gwneud y cwbl hyn i chi am nad ydyn nhw’n nabod yr un a’m hanfonodd i.
22“Pe bawn i heb ddod a siarad â nhw, fyddai dim bai arnyn nhw; ond bellach does ganddyn nhw ddim esgus o gwbl am eu beiau.
23Y mae pwy bynnag sy’n fy nghasáu i yn casáu fy Nhad hefyd.
24Fyddai dim bai arnyn nhw pe bawn i heb gyflawni yn eu plith weithredoedd na wnaeth neb arall; ond fel mae pethau maen nhw wedi gweld yr hyn a wnes i, ac maen nhw’n fy nghasáu i a’m Tad.
25Ond bid sicr, roedd rhaid i’r gair a ysgrifennwyd yn eu hysgrythur nhw ddod yn wir:
‘Cefais fy nghasáu heb reswm o gwbl.’
26“Ond pan ddaw’r Cynorthwywr a anfonaf i oddi wrth y Tad atoch chi, sef Ysbryd y Gwirionedd, sy’n dod oddi wrth y Tad, fe fydd hwnnw yn tystio amdanaf i.
27Fe fyddwch chithau hefyd yn tystio amdanaf fi, am i chi fod gyda mi o’r dechrau.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.