1Pawl carcharor krist iesu ar brawd tymotheus: atmon: anwyl eyn kymhorthwr ni
2ag at appya gred[ig] ag archyppws: eyn kydryfelwr ag at y gynylleidfa sy dy dyy di:
3gras ywch a thenghefedd i can dduw yn ar arglwydd iesu grist:
4Diolch i rydwy i dduw maû sy yn dy goffaû y fewn fyngweddiaû.
5Can fy mod yn klowed son am y Cariad tau ar ffydd sydd kenytt tuag att yr arglwydd iesu: a thuagatt yr holl saint:
6hyd yn oed bod kyfran dy ffydd daû yn ffrwythlon mewn gwybodeth pob daûoni sydd ynochi yngrhrist iesu:
7mawr ywr llywenydd ar cownffort sydd kenyn yn y cariad taû o herwydd ytt fymrawd gusuraw calonay r saint:
8ag am hyn kyd gallwn i yn hyderûs orchymyn i tydi yr hyn a berthynay:
9etto ir mwyn cariad dewisach yw kenyf ddymunaw arnat: kyd fy mod fal i rydwy: yr hen bawl ag yr awr hon kyrcharor iesu grist:
10fy nemuniad arnat sydd tros fy mab rhwn a ynnillais y fewn fy rhwymay:
11onesymws rhwn ryw amser ydoedd amrhoffidiol i tydy eithr yr awr hon yn broffidiol i ti ag i minaû:
12yr hwn a ddanfonais adref eilwaith: dithaû am hyn derbyn efo sef yw yr enaid maû:
13yr hwn a attaliaswn i gida myfy mal i gallai ef fyngwasneuthu fi trosoti y fewn rhwymaû r efengil:
14ethr ni fynnwn i wneuthyr dim heb dy gyngor taû: mal na byddai dy ddaioni di megis o gymhell namyn wollysawl.
15Cans fo ddymwyniai mai am hynny ir ymadawodd tros amser: fal i gallyr i dderbyn ef yn dragwyddawl:
16nid bellach fal gwasnaythwr eithr vwch no gwasnaythwr: yn frawd anwyl yn benddifaddau i myfi: eithr i tydi yn rhagorawl bob vn y knawd ag yn yr arglwydd:
17ag am hyn o kymeri di fi yn gydymaith derbyn ef fal fi fy hun:
18o gwnaeth ef i tydi ddim niwed neû i fod yn ddeledwr ytt: kyfri hynny i myfi:
19myfi pawl ai yscrifennodd am llaw fyhun: myfi ai dewgiaf: fal hyn ni dydwy yn son dy fod yn ddeledus i myfi o honott dy hun hefyd:
20fal hyn fymrawd bid i mi dy feddiannu di yn yr arglwydd: kysura y keudawd mau yn yr arglwydd:
21am fy mod yn hyderus oth vfyddtra taû ir ysgrifennais attatt: yn gwybod i gwneid di mwy nag i rydwy yn i ddoyded:
22Am ben hyn darparaa i myfi letty: Cans gobeithio i rydwy drwy help ych gweddiau chwi im rhoddir i chwi:
23y may yn erchi dannerch: Epaphras fynghydgarcharor] yngrhist iesu:
24marcws: arystarcws: Demas: lucas: fynghymhorthwyr:
25Gras yr arglwydd iesu grist a fo gidach ysbryd amen
O rufain i danfonwyd
gidag onesimws gwasnaythwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.