1Pawl gwasnaythwr duw: ag Apostol iesu grist: ar ol ffydd dewisedigion dûw: ag ar ol gwybodaeth y gwirionedd: rhon sydd yn gytûn a duwioliaeth:
2y fewn gobaith y bowyd tragwyddol: rhwn a addawodd y sydd ddiaû dûw ymblaen dechreuad y byd:
3eithr a egorawdd eu air y fewn eû amser: trwy bregethû: yr hyn a orchmynwyd i myfi: o rym nawdd eyn keidwad ni dûw:
4at tytws eû wir fab ar ol y gyffredinawl ffydd: Gras trugaredd a thenghefedd y can dduw tad ar arglwydd iesu grist eyn keidwad
5Or achos hwn i gadewais i dydi y fewn Creta: mal i gallyt ddewgiaw hyn sy yn ol, ag ordiniaw henafgwyr ym hob dinas: megis ag i poyntiais i tydi:
6os bydd vn a fo difai: gwr vn wraig: ag iddaw blant ffyddlawn: ni bo gogan vddynt am anllyfodraeth:
7neû eu bod yn anhowaith Cans rhaid yw i escop fod yn ddifai: megis styward i ddûw: nid afrowiog: nid dikllon: nid rheibiwr gwin nid ymladdwr, nid chwannog i fudr elw:
8Eythr a fon (lettowr) kynal tyy: vn a garo dayoni: prudd: sobr: kyfion duwiol tymhoraidd (ardymherus):
9yn glynû wrth ffyddlawn ymadrodd yr addysc: fal i botho hefyd abl i gynghori trwy bybyr athraweth ag i orfod yrhai a font yn gwrthnebû:
10Cans may rhai yn anhowaith: overaidd eû siarad: hudolion y meddwl: ag yn benna yrhai sy or anwaydiad
11Safnay yrhai a fydd rhaid i hargaû: yrhai syn dymchwelyd teiaû kyfanedd yn dyscu pethaû] ni fferthynai vddynt: ir mwyn budr elw:
12vn o honyntwy, proffwyd or euddynt eu hûn a ddyfawd: y Cretiniaid kelwddog fyth: pryfed drwg: boliaû muscrell:
13gwir ywr testiolaeth hyn: ag am hynny kyrydda di hwynt yn dost: mal i gallont fod yn iach y fewn y ffydd
14nid yn ystyriaeth chwedlay eiddewaidd: a gorchmynion dynion a dry heibio r gwirionedd:
15Ir rhai pûr pob peth sydd bûr eithr irhai sy lygredig ag anffyddlon: ni bydd dim pûr: namyn llygredig yw pob vn eu meddwl hwynt ai kydwybod:
16kyfaddaû (proffessû) i maynt eu bod yn ednabod dûw: eithr ai gweithredoedd eu wadu i maynt: can i bod hwynt yn ffiaidd ag yn anûfydd ag yn anghyson i bob gweithred dda:
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.