1 Tymothiws 4 - Pastoral Epistles by Bishop Richard Davies c.1564

yr epystyl kyntaf i bawlY iiij Kytpen

1Yr ysbryd sydd yn doyded yn olaû: ir ymedy rhai ar ffydd amser a ddaw: ai gwg ar ysbrydoedd hudoliaidd: ag addisc diawlaid

2hwynt rhai drwy ymgowrenio a ddoydant gelwydday: ag vddynt gydwybod gwedi eû markio a hayarn brwd:

3yn gwahardd priodi: yn gorchymyn gochel bwydydd: rhain a creawdd dûw] trwy dalu diolch yw mwynhaû, ir ffyddloniaid, ag ir hai a edwyn y gwir.

4Canys holl creaduriaid duw da ydynt, ag ni does dim a ddylid i wrthod os kymerir] ef trwy dalû diolch.

5Canys santaidd fydd trwy air Duw a thrwy weddi:

6os dygidi ar gof ir brodyr y pethaû hyn ysta wasnaythwr fyddi i (i)esu grist: tydy a fagwyd y fewn geiriaû (y) ffydd ag addysc ddaionûs: yr hwn a gylhynaist yn ystic:

7Eithyr gad heibio annûwiol a] gwrachiaidd chwedlay: ymarfer di dyhûn a duwioliaeth

8Canys ymarfer corfforawl ychydig a broffidia: eithyr dywiolaeth proffidiol yw i bob peth: ag iddaw addewid y bowyd presennawl ag a ddaw rhag llaw:

9ymadrodd diammay yw hwn ag a ddylai fod yn gymradwy ymhob modd:

10Canys am hyn i ddydym i yn llafurio ag yn goddaû dirmygion: o herwydd fod kenym] obaith safadwy y fewn Dûw byw: rhwn yw keidwad yr holl ddynion: ag yn henwedig y ffyddloniaid:

11Gorchymyn vddynt y pethau hyn a dysc hwynt,

12na ddistyred neb dy iuiengtid taû: eithyr bydd i’r ffyddloniaid, siampl, mewn y madrodd mewn ymddygiad, mewn cariad mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn glendid:

13hyd oni ddelwy fi bydd] (ddyfal) yn darllain, yn kynghori, yn dyscû:

14nag esceûlûsa y rhodd sydd ynott rhon a ddoded yt i broffwydo drwy roddi dwylo arnat trwy audurdod effeiriadaeth:

15myfyria yrhain ag ymddyro i hyn: mal i bo golaû eu bawb (dy fod yn gwellhaû ymhobpeth.)

16Gwilia (ystyria) ar nad tyhûn ag ar ddysc a bydd ystig yn hyny Canys os gwneidi hyn tydy ath kedwi dy hûn, arhai hefyd ath wrandawant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help