1Ymadrodd diammaû (diogel) yw hwn: os rhybûcha dyn fod yn escob ysta waith a rybucha:
2am hyn rhaid yw i escob fod yn ddifai, gwr vn wraig: gofalûs (diwid): pruddaidd (kymen): gwybodûs: llettowr: athroleithûs:
3nid rheibiwr gwin: nid ymladdgar: nid kybydd budyr elw: Eithr boneddigaidd: ymbell (iddaw) ymwan, ymbell (iddaw a)[[k]](ch)ybyddtra:
4vn a rolo eû dyy eû hûn yn dda: vn ai blant mewn gostyngedigrwydd a phob lledneisrwydd:
5oni fedyr dyn roli eû dyy eû hûn, pa fodd i llyfodraytha ef kynylleidfa dûw:
6nid nofis fydd efo rhag chwyddo mewn balchder a syrthio tan farn y goganwr:
7rhaid iddo] hefyd gaffael gair da can estroniaid rhag syrthio mewn mefyl a magyl y gwr drwg:
8Ar deoniaid y kyffelib fodd, rhaid ydiw eû bod yn fedrûs: nid a daûddyblig dafawd: (nid rheibwyr gwin) nid chwanog i fudyr elw:
9yn kynal kyfrinachedd ffydd, ynghyd a chydwybod lan:
10ag yn gynta bid praw arnunt: ag yna kaffant wasneûthû: fal na bo neb abl i feio arnint:
11Ag fal hyn i bydd rhaid yr gwragedd fod yn llednais: nid rhai drwg eû tafawd: eithyr arafaidd a ffyddlawn ymhob peth:
12Bid y deoniaid gwyr vn wraig: ar kyfryw a lyfodraytho eû plant yn dda, ai teûlû:
13Canys yrhai a wasnaythont yn dda: a enillant radd dda vddynt i hûnain, a rhydit mawr yn y ffydd yr hon sydd yngrhist iesû:
14hyn i ddydwy yn i escrifennû attat am gobaith i deûaf ar fyrder attat:
15eithyr os gwnaf hir daring: fal i gellych etto gaffael gwybodaeth pa fodd i bydd rhaid yt ymddwyn i fewn tyy dûw: rhwn ydiw kynilleidfa dûw byw: piler a selfan y gwirionedd:
16ag yn ddiammaû hyn sydd fawr gyfrinachwedd duwioliaeth, duw a ddangoswyd yuewn knawd: ef a gyfiownwyd yn yr ysbryd: a weled ymlith angylion, a bregethwyd ir bobl, a gredwyd iddaw i fewn y byd ag a dderbyniwyd i fyny mewn gogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.