2 Tymothiws 2 - Pastoral Epistles by Bishop Richard Davies c.1564

Yr ail Cytpen

1Tydy fy mab am hyn: bydd gadarn y fewn y gras rhwn sydd yngrist iesu:

2ag y fewn y pethaû a glowaist y kenyfi: trwy lawer o dystyon: y pethau hyn cymûna hwynt i ddynion ffydlon a font kymhesur i ddyscu eraill:

3Tithau or achos hwn ymgospa megis dayonys filwr iesu grist:

4nid ymrwystra neb a fo yn rhyfela a negesau bydawl, ir mwyn rhyglyddu bodd ir neb ai dewisodd i fod yn rhyfelwr:

5ag os ymwan dyn am gamp (orchest) etto ni choronir ef oddeithr iddaw ymwan yn gyfreithlawn:

6rhaid ydiw ir llafurwr a fo yn llafurio yn gynta dderbyn kyfran or ffrwythydd:

7meddwl am i ddwy yn i ddoyded, yr arglwydd a ro dyall yt ymhob peth

8kydnebydd gyfodi o iesu grist o feirw: o hiliogeth Dauydd: yn gyttûn ar yfengil faû:

9am yr hon i ddydwy yn goddau trallawd megis a wnelai ddrwg hyd at rwymay: Eithr ni bu rwymedig gair duw:

10or achos hwn i ddydwy yn goddaû pob peth ir mwyn y dewisedigion: mal i gallont wythaû ynill y cadwedigaeth y sydd yngrist iesu ynghyd a gogoniant tragwyddawl

11ymadrodd diammay yw: Canys os kydfarw a wnawn: kydfyw a gawn gidag ef.

12O byddwn oddefus kydtyrnasu gidag ef a gawn: os gwadwn i ef yntay hefyd ayn gwatta ninay:

13os bydd i ni ar fod yn anffyddlon: etto ef a drig yn ffyddlawn: ni ddichin ef i wadû eu hûn:

14dwg ar go vddynt y pethaû hyn: a chydtestylaytha gar bron yr arglwydd: na fid ymryson geiriaû ni does dim proffit ynthynt, onid i ddymchwel y gwrandawyr

15Bwriada ymddangos dy fod yn weithwr canmoladwy i ddûw ar nas geller eu gwilyddio, yn kyfrannû gair y gwirionedd

16yn gyffion Eithr] tu ag att am lygaidd orwagedd geiriaû, gad heibio hwynt: Cans kynhyrchu a wnant i fwy o anwiredd:

17ai geiriau hwynt a fwytty y mal klwy cancer or kyfri hyn i may hymenews a phyletws:

18yr hain ynghylch y gwirionedd: aythont ar grwydr: yn doyded am adgyfodiad ddarfod hynny eusûs: a diwadnû ffydd rhai i maynt,

19eithr cadr sailfan duw a sai: ag iddaw i may r nodarwydd hwn: fo a edwyn yr arglwydd yrhai sy yn eiddaw ef: ymwrthoded pob dyn ag anwiredd ar a alwo ar enw c[[h]]rist:

20Eithr mewn tyy mawr i byddant nid yn vnig llestri aûr ag arian: namyn hefyd llestri preniaû a llestri pridd a rhai mewn vrddas a rhai mewn dirmig:

21os ymgeidw dyn ef i hûn yn ddilwgr o ddiwrth yr hain: ef fydd llestr santaidd mewn vrddas anhepcor i angenrheidiaû r arglwydd parawd (darparedig) i bob gweithred dda:

22ffo o ddiwrth trachwant ifieingtid a dylyn gyfiowndr, ffydd, cariad, a llonyddwch: ynghyd arhai a eilw ar yr arglwydd o galon bybûr:

23questiwnay ffol anyscedig gochel hwynt dan wybod na wnant onid magu ymryson:

24ni ddylai gwasnaythwr yr arglwydd ymryson: namyn bod yn foneddigaidd i bob dyn: parawd i ddyscû: ag vn a fettro oddaû yrhai drwg yn ddigynwr:

25ag a fettro iowni yrhai a wrthneppo yr gwir os myn duw vnwaith roi vddynt edifeirwch i gydnabod ar gwir

26a diaink o fagl y kythrel yr hai sy cantho ynal wrth i wollys.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help