1Myfy a dystiolaytha gar bron duw: ar arglwydd iesu grist rhwn a farna r byw ar meirw: ar eu ddefodiad y fewn eu dyrnas:
2pregetha r gair: bydd ddyfal,] pen fo madwys a phen ni bo madws, gwahardda, kyrydda, kynghora, drwy bob ymynedd ag addysc:
3Cans fo ddaw amser: pan nas goddefant y gwir (iachus) addysc eithr ar ol eu trachwant eu hûn (yrhai a font eu klystiaû yn merwino) kydgynnill vddynt i hunain athrawon a wnant:
4ag a ddiddyfnant eu klystiaû oddiwrth y gwirionedd: ag a ymchwelant at chwedlaû.
5Eithr tydy bydd ddysceûlûs ymhob peth goddau boen] Gwna waith efangylwr kyflowna dy swydd hyd yr eitha,
6Cans myfi a offrymmir, a chyfagos ydyw famser i ymadaw:
7myfy ymwenais ymwaniad orchestol: mi a ddibennais fynghwrs: y ffydd a gedwais ag or diwedd:
8may yn stor i myfy goron kyfiownedd: rhon a rydd yr arglwydd (sydd frowdr kyfion) i mi yn y dydd hwnw nid i myfi yn vnig: eithr i gwbl oll ar a garant eu ddefodiad ef:
9bryssia i ddyfod attafi:
10cans Demas am gwrthodes i ai serch ar y byd yma: ag ayth i tesselonica: ag ayth Cressens i galasia a thytws i dalmasia:
11yn vnig lucas sydd gyda myfy: kymer marcûs a dug ef gida thi: ef sydd broffidiol i myfi i wasneûthû:
12mi a ddanfonais tychycws i ephesws:
13y gochyl a adewais i yn troada gida Carpws pen ddelych dwg gyda thi ar llyfrey ag yn henwedig yrhai parchement
14Alexander y go efydd a wnaeth i mi lawer o ddrwg: telid yr arglwydd iddo ar ol eu weithredoedd:
15yrhwn gochel dithaû: Cans fo worthnebodd eyn geiriaû ni yn fawr:
16yn yr ymddiffin kyntaf ym: ni safodd neb gyda mi eithr pawb am gwrthodes: ytolwg i ddûw nas kyfrifer vddynt:
17Eithr hyn yr arglwyr a safodd gyda mi: ([[mal]] wedi ei ddileu) ag am nerthawdd mal i bai trwy fyngwaith i ddigon kyflawn pregeth: ag i gallai yr holl bobloedd gaffael klowed: myfy a ddiengais o safn y llew:
18Ar arglwydd am ymddiffin o ddiwrth pob gorchwyl drwg ag am keidw yw nefawl dyrnas, ir hwn i bo gogoniant yn oes oysoedd amen:
19Annerch prysca ag aquyla a theulû onesyphorws:
20Erastws a dariodd ynghorynthia myfy a adewais trophynws yn myleta yn glaf:
21brysya i ddyfod kyn y gayaf i may eubulws yn erchi dannerch a pruwdens a lynws, Clawdya ar holl frodyr,
22yr arglwydd iesu grist a fo gydath ysbryd: Gras a fo gyda chwi Amen.
Yr ail epystyl yma at tymothiws a ddanfonwyd
o rufain pan ddycpwyd pawl ailwaith gar
bron yr emperwr nero.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.