1Na cherydda henafgwr yn greûlon: eithyr kynghora ef megis tad] y gwyr ieuaink mal brodyr:
2[[ar]] y gwragedd oydiawg mal mamay yr ieuaink mal chwiorydd: ynghyd a phob glendid:
3vrddasa yrhai gweddwon a fo gwir weddwon:
4ag o bydd vn weddw a fo plant neû wyrion iddi discant yn gyntaf roli eû teulû eû hûn: a thalû pwyth yw henafiaid, hyn sydd honest a chymradwy gar bron duw:
5Eithyr hon a fo gwir weddw a diymgeledd] gobeithio duw a wna, ag a fydd ystic mewn ytolygon a gweddiaû nos a dydd
6Eithr hon a fo blyssig marw ydiw kyd bo etto byw,
7gorchymyn hyn vddynt mal i bothont digerydd:
8ag o bydd vn ni ofalo tros yr eiddi eu hûn ag yn henwedig tros eu theûlû, hi a wadawdd y ffydd a gwaeth yw nor anffyddlon (difedydd).
9Na ddewiser gweddw a fo tan trigeinmylwydd oed, ar kyfryw a fu wraig vn gwr
10ag yn dda eu gair can ddynion am weithredoedd da: os magawdd hi blant, os bû yn rhoddi lletty: os golchawdd draed y saint: os synniodd hi ar yrhai fai yn dwyn adfyd, os bu ddiwid ymhob gorchwyl da:
11Eithyr gwrthod y gweddwon ieuaink: Canys pan ddechreûontwy ymdrythyllû yn erbyn crist priodi a fynnant:
12a chael barnû arnint am] (wrthod) y ffydd gyntaf:
13A hefyd dyscû a wnant fyned o dyy i dyy yn segurllyd ag nid yn vnig yn segurllyd eithyr yn siaradûs ag yn fawr eu ymyrreth yn doyded pethaû ni weddaû:
14Mi a fynna am hyn ir ieuaink briodi a phlanta a llyfodrauthû tyy: na rothont ddim achlysur] ir gwrthwynebwr i gael achos i oganû.
15Canys may llawer yr awr hon wedi] dymchwelyd ag yn calyn sattan:
16[[yr henafgwyr a lyfodraytho yn dda deublyg urddas a hayddant]] os bydd na gwr na merch a gretto a gweddw uddynt Synniant arnynt: ag na ormeser ar vr eglwys fal i gallo fod digon irhai a fo gwir weddw:
17yr henafgwyr a lyfodraythont yn dda daûblyg vrddas a hayddant ag yn bennaf yrhai sy yn llafurio y fewn y gair ag i fewn dysc
18Canys yr yscythyr a ddowaid na ffrwyna vr ych a ddwrn yr yyd: ar gweithwr a] haydda eû gyflog.
19Na dderbyn achwyn ar henafgwr oddieithr tan ddaû neû dri o dystion:
20yr hai a bechant kyrrydda hwynt yn olaû: fal ir ofno eraill:
21Testylaythu i ddwy gar bron Dûw ar arglwydd iesu grist: ar engylion dewisedig: ar gadw o honotti y pethau hyn: heb prysurfarn: na gwneuthyr dim yn hannerawg:
22na ddyro dy ddwy law ar neb yn rhy fûan, ag na fydd gyfrannawg a phechoday rhai eryll: ymgadw dy hûn yn lan:
23nag yfa ddyfr o hyn allan: ymarfer ag ychydig win] ir mwyn dy estwmoc: ath fynych glwyfay:
24Pechoday rhyw ddynion egored ydynt o flaenllaw: a blaenori a wnant fal i geller eu barnû: eithyr i rai calyn a wnant:
25yn yr vn modd hefyd gweithredoedd da yn gynta egored ydynt ar hai a font amgenach ni ellir eû kuddiaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.