1Pawl abostol iesû grist trwy wollys dûw ar ol addewid y bowyd rhwn sydd yngrhist iesu:
2at tymothiws en gredigawl fab: Gras: trûgaredd, tengnhefedd y can dduw tad a christ iesu eyn harglwydd ni.
3Diolch i rydwy i dduw: rhwn i ddydwy yw vddoli oddiwrth fy henafiayd a chydwybod lan: fy modi yn dy grybwyll di yn ddigyfwng y fewn fyngweddiau nos a dydd
4yn dymunaw kaffael dy weled: yn feddylgar am dy ddagray: fal i ddydwy fi kyflawn o lywenydd:
5tra alwy im kof y ffydd ddiweniaeth sydd ynotti: rhon yn gyntaf a orseddai i fewn dy nain di lois ag yn dy fam di Eunica: a sikir yw kenyf ynottithaû hefyd:
6ag or achos hwn i ddwy yn dy rebuddiaw di:] (enynnû) o honot y rhad dûw sydd ynott trwy osodiad y dwylo maû:
7Canys ni roddes duw i nyni ysbryd ofn: Eithyr ysbryd kadernid a chariad ag arafeiddwch:
8am hyn na fid arnat gwilidd o achos testiolaeth eyn harglwydd nag om achos inaû eu garcharor ef: eithyr kydoddau adfyd gidar efengil: ar ol power dûw:
9rhwn an ymwaredawdd ni ag an galwodd] (a g)alwadigaeth santaidd]: nid ar ol eyn gweithredoedd ni: eithyr ar ol eu amkan eu hûn, ar gras rhwn a rodded i nyni trwy grist iesu ymlaen: amseroedd bydoedd:
10eithyr yr awr hon, a ddangoswyd yn olaû trwy apparawns eyn keidwad iesu grist: rhwn a ddistrowiodd farfolaeth: ag a ddûg y bowyd i oleûni ar tragwyddoldeb trwy r efengil:
11ir hwn ym gossoded inaû yn bregethwr, ag yn abostol ag yn athro y bobl ir mwyn hyn i ddwy yn goddaû y pethau hyn: eithyr nim quilyddir:
12Cans mi a wn a sikir yw kenyf fod y neb ir ymddiriedais iddo yn abl i gadw a roddais attofo: erbyn y dydd hwnw.
13Kymer siampl y geiriaû pybyr a glowaist kenyfi mewn ffydd a chariad yngrhist iesu:
14Cadw r peth da a roddet attat trwy yr ysbryd glan sydd yn gorsedd ynomi:
15ty a wyddost hyn droi o honynt oddiwrthyfi oll rhai sy yn asia: or rhai hyn i may phygelws a hermogenes:
16rhodded yr arglwydd drugaredd i deulû onesyphorws: canys ef am adebrawdd i yn fynych: ag ni bu gwilidd canthaw fynghadwyn i.
17Eithyr pan ydoedd yn rhûfain, ef am keisiawdd i yn ddyfal ag am kafaws
18kynihatted yr arglwydd iddo gaffael trugaredd gidar arglwydd yn y dydd hwnw: ag ymhafaint bynag o bethau i gwasnaythodd ef fyfy yn ephesws tydy ai gwyr yn oraû:
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.