1 Tymothiws 2 - Pastoral Epistles by Bishop Richard Davies c.1564

y pystyl kyntaf i bawlYr ail Cytpen

1Kynghori i ddydwy am hyn ymlaen dim, Bid gweddiau, ytolygon a erfyniaday, a thalû diolch, tros bob dyn,

2tros frenhinoedd a phawb ar a ossodet mewn uchelder: fal i gallom i fyw yn llonydd ag yn tengnhefeddol, ynghyd a phob dywioliaeth ag honestrwydd:

3canys hyn sydda a chymradwy, gar bron dyw eyn keidwad

4yrhwn a chwenych fod holl ddynion yn gadwedig ai dyfawd i wybodaeth y gwirionedd:

5canys vn dyw sydd ag vn dyddiwr hefyd rhwng dyw a dyn, sef yw y dyn crist iesu,

6yr hwn ai rhoddes ef i hunan yn bridwerth tros holl ddynion: mal i gallai gael testiolaeth yn eû amser:

7ir hwn im ordiniwyd inaû yn bregethwr ag yn abostol, y gwir a ddoyda yngrhist ac nid gaû, lle i ddwy yn athro ir bobl drwy ffydd a gwirionedd

8mi a fynna am hyn ir gwyr weddio ym hob man dan ddyrcha eû dwylo glan: heb ddiclloni nag amheûeth:

9yn yr vn modd hefyd y merched: ai trwssiad o ddillad gweddus ynghyd a gwladeiddrwydd, (lledneisrwydd) a chymesurwydd: nid mewn gwallt plethedig, neû aûr, neû gemmaû (margarites) neû wisc werthfawr,

10namyn mal i gweddai i ferched a brophessai ddywioliaeth, trwy weithredoedd da:

11merch dysced yn ddistaw yn ostyngedig ym hob peth:

12eithyr ni oddefaf i ferch fod yn athro: na bod iddi awdurdod ar y gwr, eithr bod mewn distawrwydd:

13canys adda yn gyntaf a luniwyd ag yna Eûa:

14nid adda hefyd a siomed eithyr y ferch a siomed ag aeth tan gamwedd:

15Eithyr am ddwyn plant i bydd hi cadwedig os hwynt a erys yn y ffydd a chariad ag mewn glendid a chymesurwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help