1Pawl apostol iesu grist: drwy nawdd duw eyn keidwad awn harglwydd iesu grist eyn gobaith:
2at tymothiws eu wir fab yn y ffydd. Gras, trugaredd, a thenghefedd, i can dduw tad ar arglwydd iesu grist eyn harglwydd ni:
3megis ag i demûnais arnat aros yn Ephesus (pan eûthym i i fasedonia) felly gwna: mal i gellych wahardd i rai na chalhynant ymrafael addysc
4nag ymarayl (estyriaeth) chwedlay ag achay diorffen: yrhain kynt i magent ymresymmay nag edeiladaeth duwiol a fai drwy ffydd:
5canys diweddiad y gorchymyn ydiw cariad o galon bûr: a chydwybod dda, a ffydd ddiweniaith:
6o ddiwrth yrhain o herwydd myned rhai ar grwydyr hwynt a droysant i ofer siarad:
7hwy[[nt]] a fynnent fod yn athrawon y gyfraith heb ddyall yr hyn a ddoydant nar pethau i bont yn i sikerhaû:
8nyni wyddom fod y gyfraith yn dda od erfyr dyn y hi yn gyfreithlon:
9ag a wyddom hyn nad ir kyfion i rhodded y gyfraith namyn ir anghyfion ar anûfydd ir enwiriaid ar pechaduriaid, ir anghysygredig (llygredic) ar anlan i ddifethwyr tad a difethwyr mam i ddifethwyr dynion,
10ir puteinwyr (budrogwir) irhai a gydfudreddant ar gwrw ir lladrotwyr dynion, ir kelwoddog ar anûdonion ag odoes dim arall y sydd worthwyneb ir addysk iach
11yn gytûn ag yfengil gogoniant y dedw[[ydd]] (-ddawl) dduw yr hwn yfengil a ymddiriettwyd i myfi:
12A diolch i ddydwy i grist iesu eyn harglwydd ni, rhwn am gwnayth i yn allûys: Canys fo am barnodd i yn ffyddlawn ag am rhoddes mewn swydd:
13lle i royddwn or blaen yn oganwr, ag yn ymlidiwr ag yn derhaûs: Eithr hyn myfy a gefais drugaredd: o herwydd yn ddiarwybod i gwneûthym drwy angrhediniaeth:
14fo helethawdd tuhwnt i fesur ras eyn harglwydd: ynghyd ar ffydd ar cariad y sydd yngrhist iesu:
15Gwir ywr ymaddrodd hwn: ag ymhob modd a haydday (ddylai) gymeriad: ddyfawd o grist iesu ir byd ir cadw pechaduriaid: or hain myfy ywr blayna:
16Eithyr am hyn i kefais i drugaredd: mal i gallai grist iesu arnafi y blayna ddangos pob hir ymynedd: ir athraweth yrhai a gredent iddaw i gael y bowyd tragwyddawl.
17Eithr i frenin yr oysoedd: difarwol anolwgabl, vnig (pwyllog) dduw vrddas a gogoniant tragwyddawl amen:
18y gorchymyn hwn] (i ddydwy yn i gymunaw) i tydi fy mab tymothiws: yn ol y prophedoliaythay: yrhain amser ayth heibio a brophwy[[dent]]did am danat: mal ir ymwenyt ynddyntwy filwriayth da
19a chenyt ffydd a chydwybod dda: yrhain a daflasont rhai oddiwrthynt: ag a dorasont eu llong ynghylch y ffydd:
20or kyfri hyn i may hymynews ag alexander,] (myfy ai kymunais hwynt) i sattan i ddyscû ûddynt na chamadroddont.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.