Salmau 122 - Welsh Selection of Psalms by Lewis Valentine 1936

SALM CXXIIY DDINAS SANTAIDD‘Cân y Pererinion. Salm Dafydd’.

1Dedwydd wyf pan ddywed fy nghyfeillion,

“Yr ydym yn mynd i dŷ Iehofa”.

2Llawen wyf pan saif ein traed

O fewn dy byrth di, O Ieriwsalem, —

3Ieriwsalem a godwyd unwaith eto

Yn ddinas gyfan a chryno.

4Yno gynt daeth y llwythau ar bererindod,

Llwythau Iehofa.

Deddf Israel yno yw moliannu Iehofa.

5Yno codwyd gorseddau barn,

Gorseddau tŷ Dafydd.

6Gweddïwch dros lwyddiant Ieriwsalem,

Boed heddwch i’w charedigion,

7Boed llwyddiant o fewn dy furiau,

A heddwch yn dy blasau.

8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion

Dymunaf lwyddiant i ti:

9Er mwyn tŷ Iehofa ein Duw

Ceisiaf ddaioni i ti.

salm cxxii

Hyfrydwch pererin o fro bell yn ystod un o’r gwyliau mawr yn Ieriwsalem a fynegir yn y Salm hon. Myfyria ar hen hanes y ddinas, a gweddïa dros ei llwyddiant a’i lles.

Diweddar iawn ydyw arddull y Salm, ac atgof yn unig oedd y Gaethglud pan ganwyd hi.

Nodiadau

1, 2. Dyry gwahoddiad ei gyfeillion i ddyfod gyda hwynt i’r ŵyl lawenydd iddo, a dwyseir y llawenydd pan sylweddola ddiben y bererindod, sef addoli yn y Deml yn Ieriwsalem.

3, 4, 5. Bu’r ddinas yn adfeilion, ond ail-adeiladwyd hi, ac unwaith eto y mae ei heolydd yn gyfain, a’i muriau yn gryno heb adwyau.

Yn 5 meddwl y mae’r awdur am y gorffennol pan gyrchai ei dadau, fel yntau, yno ar bererindod. Nid hap a digwydd yn hanes Israel ydyw cadw’r gwyliau hyn, ond dyna ei harfer gyson. a’i deddf hi.

6—9. Buasai cynghanedd y gwreiddiol yn apelio at galon Cymro, ond ni ellir ei gyfleu mewn cyfieithiad. Anogaeth i’r pererinion i weddïo dros y ddinas santaidd.

Pynciau i’w Trafod:

1. Pa werth oedd i’r pererindodau i Ieriwsalem i’r Iddewon ar wasgar?

2. Darllenwch hanes ddigwyddiadau cyffrous Dydd y Pentecost yn Llyfr yr Actau, ac ystyriwch y fantais a gafodd Cristnogaeth o bererindod yr Iddewon i’r ddinas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help